Henffych i'r dydd y daeth Gwaredydd i ddyn caeth; Byth iddo Fo, a ddaeth i'n bro, Boed cân yn ffrydio'n ffraeth: O'r forwyn Fair y daeth y Gair, Y dydd goffâir o hyd: - Rhown glod heb drai, daeth Iesu'n chwai, I wisgo clai, dros waelion rai, A golchi bai y byd. O! gariad hoff ei gael Dros ddyn syrthiedig gwael! Ei fath îs rhod, ni bu yn bod, Mor hynod ac mor hael, - Sef d'od o wlad gogoniant mâd, O go'l ei Dad, le dwys, I oddef gwŷn, yn wael ei lun A myn'd dros ddyn, nid drosto'i hun, Y nefol Gun, dan gwys. Yr Iesu ar y pren Oddefodd boen a sen, Yn aberth gwiw, dros ddynol-ryw, - Am hyn mae'n byw yn Ben Ar deulu'r nef, - ac "Iddo Ef" Mae cân a llef yn llon; Ac yn ddiâu bydd i barhau Y gân fwyn glau, heb byth lesghau, - Boed im' fwynhau'r gerdd hon.Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 Tôn [6686.86886]: Trefriw (<1831) |
Hail to the day on which came A Deliver for captive man; Forever unto Him, who came to our vale, Let a song flow eloquently: From the virgin Mary came the Word, The day is to be commemorated always: - Let us render unebbing praise, Jesus came speedily, To wear clay, for the sake of base ones, And wash the fault of the world. Oh love gladly gotten For base fallen man! Its like under the sky, has not existed, So notable and so generous, - Namely to come from an esteemed land of glory, From his Father's bosom, a profound place, To suffer grief, of a base appearance, And to go for man, not for himself, The dear heavenly one, under a sod. Jesus on the tree Suffered pain and reviling, As a worthy sacrifice, for humankind, - Therefore he is living as Head Over the family of heaven, - an "Unto Him" Is the song and cry cheerfully; And doubtless shall endure The true, dear song, without ever languishing, - May I enjoy this music!tr. 2014 Richard B Gillion |
|