Hir-ddysgywliais am foreu-ddydd

Hir-ddysgywliais am foreu-ddydd,
  Etto tew dywyllwch sy,
Yn parhâu i'm hamgylchynu,
  Oddi wared, oddi fry;
Beichiau trymion sy'n fy ngwasgu,
  Minnau'n egwan tan y groes;
Colli'th wyneb tirion, Arglwydd,
  Sydd yn ychwanegu'r loes.

A ddaw gwawr
    ar ol y plygain,
  Sydd mor dywyll i mi'n awr,
A ddaw'm gwawr i etto'n union,
  Sydd yn teimlo beichiau mawr?
A raid yfed chwerwach dyfroedd
  Nag a yfodd un o fil,
Cyn fy lladd i lwybrau gwammal,
  A fyn nwyn i gadw'r cul?

O, llewyrched Haul Cyfiawnder,
  Yn ei nerthol rasol rym;
A danosed ei effeithiau,
  Wedi'r gauaf mwyaf llym:
Euog, aflan, oer, a diffrwyth,
  Halogedig oll wyf fi;
Iesu, ffynon iachawdwriaeth,
  A'i rhinweddau oll wyt ti.
1-2: D.M.
Trysorfa Ysprydol, Hydref 1800.

Tôn [8787D]: Tantum Ergo (Samuel Webbe 1740-1816)

Long I waited for the morning,
  Still thick darkness there is,
Continuing to surround me,
  From deliverence, from above;
Heaven burdens are pressing me,
  I being weak under the cross;
Losing thy gentle face, Lord,
  Is adding to the anguish.

Will the dawn come
    after the morning prayer time,
  Which is so dark to me now,
Will my dawn come again directly,
  Who am feeling great burdens?
Must one drink more bitter waters
  Than one of a thousand drank,
Before unsteady paths kill me,
  And lead me to keep the narrow?

O, may the Sun of Righteousnss shine,
  In his strong, gracious force;
And may his effects be shown
  After the greatest, sharp winter:
Guilty, unclean, cold and fruitless,
  All contaminated am I;
Jesus, fount of salvation,
  With all its merits are thou.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~