Holl lwybrau'n Harglwydd mawr

Holl lwybrau'n Harglwydd mawr,
Ddiferant frasder lawr,
  Bob dydd a nos;
Mae'r ddaer fel yr ardd,
Pob maes a dôl a dardd,
A phob glaswelltyn chwardd,
  Dan goron dlos.

    Holl lwybrau'n Harglwydd mawr,
    Ddiferant frasder lawr,
      Bob dydd a nos.

Mae swn yr ŷd a'r gwair,
Yn chwarea'n glybau aur,
  Yn foliant llawn;
A'r meysydd yn ddidaw,
Dan rin y gwlith a'r gwlaw,
A roddant fawl i'r Duw,
  Sy'n rhoi pob dawn.

A gaiff y ddôl a'r bryn,
Glodfori Duw fel hyn,
  A ninau'n fud!
O! na mae'n tyner fron,
Yn chwyddo'r fynyd hon,
Mewn cydgan moliant llon,
  I Brynwr byd.
James Spinther James (Spinther) 1837-1914

Tôn [664.6664+664]:
    Holl Lwybrau'n Harglwydd Mawr (Wm Aubrey Powell)

All the paths of our great Lord,
Drip fatness down,
  Every day and night;
The earth is like a garden,
Every field and meadow springs forth,
And every blade of grass laughs,
  Under a pretty crown.

    All the paths of our great Lord,
    Drip fatness down,
      Every day and night.

The sound of the wheat and the hay,
Playing as golden clubs,
  Is full praise;
And the fields unceasingly,
Under the virtue of the dew and the rain,
Render praise to God,
  Who is giving every gift.

And shall the meadow and the hill,
Get to extol God like this,
  And we mute?
O that our tender breast would be,
Swelling this minute,
In a chorus of cheerful praise,
  To the world's Redeemer.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~