Hollalluog sy'n fy nghodi

1,2,(3),4,5,6.
Hollalluog sy'n fy nghodi
O'r pydewau mawr i fynu;
  Ar y graig fy nhraed a hwylia,
  Gwnaed y byd a'r
      cnawd eu gwaetha'.

Beth dāl d'rogan i mi ddrygau,
Llid y ddraig
    a'i temtasiynau;
  Mae fy Arglwydd wy'n addoli
  Yn gwbl abal i'm gwaredu.

Ei hen addewid gynt a gredaf,
Yn ei ras mi ymddiriedaf;
  D'wedodd wrthyf fil o weithiau,
  Do'wn yn iach i
      ben fy siwrnau.

Er bod uffern a'i chwmpeini
Yn elynion creulon i mi,
  Pa'm yr ofnaf neb cre'duriaid?
  Yn yr Arglwydd 'rwy'n ymddiriaid.

O's gwelaf etto waeth ellyllon,
Cryf elynion, pla fy nghalon,
  Wrth yr orseddfaingc mi a waeddaf,
  Gwaed yr Oen a
      garia'r trechaf.

Cadarn sail fy ffydd ddiffuant,
Iesu'n eiriol mewn gogoniant,
  Troswy'n dadleu ei fawrion glwyfau,
  Gwedi congc'ro byd ac angau.

Yn fy chwerwon flin gystuddiau,
Weithiau a'r dagrau ar fy ngruddiau,
  Clywa' i'm Iesu yn llefaru
  Heddwch yn drag'wyddol i mi.

Fy nghyfoeth byth yw'r Arglwydd Iesu,
Fy nhegwch a fy nglendid ydy';
  Nghyfiawnder mawr a'm prynedigaeth,
  Fy arch ym moreu ddydd marwolaeth.

Am dano myfyrdodau cynnes
Sydd fel marwor yn fy mynwes;
  Angherddol dān na
      ellir ddiffodd;
  Mi 'cara'n anwyl
      byth o'm gwirfodd.

Wrth gofio glan yr hen Iorddonen,
Fy enaid athrist gān yn llawen:
  Ar fyrr mi af i'r
      wlad na dderfydd,
  Lle mae gorfoledd yn dragywydd.

Arglwydd brysia'r amser llawen,
Caf gyfarfod draw'r Iorddonen,
  A'm hen frodyr sydd yn canu
  I'm Hanwylyd hyfryd heddy'.
Morgan Rhys 1716-79

[Mesur: 8888]

gwelir: F'enaid cred anghofia'th adfyd

It is the Almighty who raises me
Up from the great pits;
  On the rock my feet shall sail,
  Let the world and the
      flesh do their worst.

What keeps foretelling evils for me,
The wrath of the dragon
    and its temptations;
  My Lord I am worshipping is
  Completely able to deliver me.

His old former promise I will belief,
In his grace I will trust;
  He told me a thousand o tims,
  I will come whole to
      the end of my journey.

Although hell and its company are
Cruel enemies to me,
  Why shall I fear any creatures?
  In the Lord I am trusting.

If I see again worse demons,
Strong enemies, the plague of my heart,
  At the throne I will shout,
  The blood of the Lamb that
      carries the mightiest.

A firm foundation of my sincere faith,
Jesus interceding in glory,
  For me arguing his great wounds,
  Having conquered world and death.

In my bitter, grievous afflictions,
Sometimes with the tears on my cheeks,
  I hear my Jesus crying
  Peace eternally for me.

My wealth forever is the Lord Jesus,
My fairness and my purity he is;
  My great righteousness and my redemption,
  My ark in the seas of the day of death.

About him warm meditations
Are like marble in my breast;
  A fervent fire that
      cannot be extinguished;
  I will love him dearly
      forever voluntarily.

On remembering the bank of the old Jordan,
My sad soul, sing joyfully:
  Shortly I will go to the
      land that shall not end,
  Where there is rejoicing eternally.

Lord, hasten the joyful time,
When I may meet across the Jordan,
  With my old brother who are singing
  To my Beloved delightfully today.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~