Hosanna Haleliwia (I'r Oen fu ar Galfaria)

1,2,(3,(4)).
(Mawl i'r Ceidwad)
  Hosanna, Haleliwia
  I'r Oen fu ar Galfaria;
Gorffennwyd iechydwriaeth dyn,
  Efe ei Hun yw'r noddfa;
  Tragwyddol ddiolch iddo
  Am faddau a thosturio;
Anfeidrol fraint i lwch y llawr
  Fod croeso'n awr ddod ato.

  Mae'n achub hyd yr eitha'
  Y pechaduriaid mwya'; 
Fe drefnwyd ffordd i gadw dyn
  Gan Dri yn Un Jehofa;
  Anturiwn ninnau arno,
  Mae'r Iesu'n achub eto,
A chroeso i bechaduriaid mawr
  Bob munud awr ddod ato.

  Mae'r ddyled wedi'i thalu,
  Ac uffern wedi'i maeddu,
Gobeithiol garcharorion sy
  Yn dod yn llu i fyny:
  Mae'r pyrth yn llawn agored,
  Doed Israel o'r caethiwed;
Pob llesg a gwan, fyth ger ei fron,
  Ei wedd yn llon cânt weled.

  O gwyn eu byd y dyrfa
  Sy'n canu Haleliwia!
Cawn ninnau ddianc cyn bo hir
  I mewn i'r wir orffwysfa -
  I ganu i dragwyddoldeb,
  Mewn hwyl a nefol undeb,
Heb gwmwl rhyngom, byth mewn hedd,
  Â siriol wedd Ei wyneb.
iechydwriaeth :: iachawdwriaeth

Morgan Rhys 1716-1779

Tonau [7787D]:
Bonchurch (<1876)
Croesawiad (1887 R Ll Owen)
Maes y berllan (David Evans 1874-1948)
Hosanna (James Mills 1790-1844)
Hosanna (Joseph Parry 1841-1903)
Hosannah (<1869)
Noddfa (J D Jones)
Triumphant (<1905)
Wilkesbarre (Daniel Protheroe 1866-1934)

gwelir:
  Dewch holl hiliogaeth Adda (I wledd ...)
  Eheded iachawdwriaeth
  O llanwed iachawdwriaeth

(Praise to the Saviour)
  Hosanna, Hallelujah
  To the Lamb who was on Calvary;
The salvation of man was finished,
  He Himself is the refuge;
  Eternal thanks to him
  For forgiving ans showing mercy;
An immeasurable privilege to the dust of the earth
  Is being welcome now to come to him.

  He saves to the uttermost
  The greatest sinners;
A way was prepared to keep man
  By the Three in One Jehovah;
  Let us venture ourselves upon him,
  Jesus is saving still,
And great sinners are welcome
  Every minute now to come to him.

  The debt has been paid,
  And hell has been beaten,
Hopeful prisoners are
  Coming up as a host:
  The gates are fully open,
  Let Israel come from captivity;
Every faint and weak, forever before him,
  His face joyfully may see.

  Oh blessed are the throng
  Who are singing Hallelujah!
We too may escape before long
  Into the true rest -
  To sing for eternity,
  With enthusiasm and heavenly unity,
Without a cloud between us, forever in peace,
  And the happy countenance of his face.
::

tr. 2011 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~