Hwn ydyw'r dydd y cododd Crist, Gan ddryllio pyrth y bedd; O cyfod, f'enaid, na fydd drist, I edrych ar ei wedd. Cyfodi wnaeth i'n cyfiawnhau, Bodlonodd ddeddf y nef; Er maint ein pla, cawn lawenhau Mae'n bywyd ynddo Ef. Gorchfygodd angau trwy ei nerth, Ysbeiliodd uffern gref; Ac annherfynol ydyw'r gwerth Gaed yn ei angau Ef. Esgynnodd mewn gogoniant llawn Goruwch y nefoedd fry; Ac yno mae, ar sail ei Iawn, Yn eiriol drosom ni. Os gofyn pur gyfiawnder nef Am fywyd euog ddyn, Fe ddengys Iesu drosto Ef Ei werthfawr waed Ei Hun. Pob gallu llawn, drwy'r byd a'r nef, Sydd yn ei law yn awr; Ni rwystra gallu uffern gref Ddibenion Iesu mawr.Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia) 1803-1870
Tonau [MC 8686]: |
This is the day on which Christ arose, Shattering the portals of the grave; O arise, my soul, do not be sad, To look on his grave. Rise he did to justify us, He satisfied the law of heaven; Though great our plague, we may rejoice Our life is in Him. He vanquished death through his strength, He plundered strong hell; And boundless is the worth Which is had in His death. He ascended in full glory High above the heavens above; And there he is, on the basis of his Satisfaction, Pleading for us. If the pure righteousness of heaven asks For the life of guilty man, Jesus will show for His sake His own precious blood. Every full power, throughout the world and heaven, Is in his hand now; The power of strong hell will not frustrate The purposes of great Jesus.tr. 2009,11 Richard B Gillion |
|