Hwn ydyw'r dydd yr adgyfododd Crist

(Dydd yr Arglwydd - Allegiad)
Hwn ydyw'r dydd yr adgyfododd Crist,
Byth yn fuddugol ar bob gelyn trist;
  Er holl ddichellion
      uffern fawr a'r byd
  I'w luddias, - hollol ofer oll ynghyd.

Er gwaith y milwyr,
    a'r seliedig faen,
Ni allodd neb wrthsefyll dim o'i flaen,
  Na gwarchawd y Carcharor
      gwych ar g'oedd,
  Oblegyd mai Carcharor dwyfol oedd.

Ni ddaethai yno'n
    wrthddrych caeth ei wedd,
Ar feddwl aros byth
    dan ddrws y bedd;
  Ond brenin yn goresgyn ydoedd ef,
  Yspeiliodd angeu
      o'i lywodraeth gref.

Wrth adgyfodi'n fore'r trydydd dydd,
Maluriodd gedyrn byrth
    marwolaeth brudd;
  O'r bedd ac uffern
      gwnaeth ddangosfa fawr,
  A'u rhwysgfalch benaeth
      dan ei draed yn awr.

A'i wysg yn waed
    mewn goruchafieath draw,
Caethiwed dyfai'n gaethglud yn ei law;
  A chafodd gan ei
      lwyr foddhaol Dad,
  Orseddfaingc fry goruwch
      pob llid a brad.

Rhoed y llywodraeth ar ei ysgwydd ef,
Sef pob awdurdod byth
    drwy'r byd a'r nef;
  Er profi llawn gywirdeb ei holl waith,
  Rhoes heddyw i chwi
      i orphwys ar eich taith.

Ei weision ffyddlawn
    sy'n cyffesu'n rhwydd,
Ei ras a'i rin,
    wrth orphwys yn ei wydd;
  O! frodyr, cadwn yr ophwysfa hon,
  A roes Duw ini
      yn ei gysegr llon.

Oddiwrth bob hunanorchwyl
    trown ein bryd,
Poed ein hyfrydwch yn y gair i gyd:
  Dysgwyliwn ail ddyfodiad
      Crist yn nghyd,
  Pan wyla pobloedd Babel oll
      drwy'r byd,
A Seion i'w gorphwysfa
    lān dilyth,
Lle na ddaw lliw na llun
    o bechod byth.
Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841
Blodau Arfon (Attodiad) 1869

[Mesur 10.10.10.10]

(The Day of the Lord - An allegory)
This is the day when Christ arose,
Forever victorious over every sad enemy;
  Despite all the deceptions
      of great hell and the world
  To hinder him, - all useless altogether.

Despite the soldiers' work,
    and the sealed stone,
None could withstand at all before him,
  Nor guard the brilliant
      Prisoner publicly
  Because a divine Prisoner he was.

No object of a captive sort
    would come there,
Thinking of staying forever
    shut in the grave;
  But a king overcoming was he,
  Who despoiled death of its
      strong government.

On rising on the morning of the third day,
He shattered the strong
    portals of sad mortality;
  Of the grave and hell
      he made a great exhibition,
  And their haughty, presumtuous chief
      under his feet now.

With his clothing as blood
    in yonder conquest,
He led captivity captive in his hand;
  And he received from his
      wholly satisfied Father,
  A throne above higher than
      all wrath and treachery.

The government was put on his shoulder,
That is every authority forever
    throughout the world and heaven;
  To prove the full truth of all his work,
  He gave peace to you
      to rest on your journey.

His faithful witnesses
    confess freely,
His grace and his merit,
    while resting in his presence;
  O brothers, keep this rest,
  That God gave to us
      in his cheerful sanctuary.

From every self-imposed task
    let us turn our mind,
Let our delight be all in the word:
  Let us watch for the second
      coming of Christ together,
  When the peoples of Babel all
      throughout the world shall weep,
And Zion to to her holy,
    unfailing resting-place,
Where neither colour nor image
    of sin shall ever come.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~