Hwn yw'r dydd i gofio'r Iesu

Hwn yw'r dydd i gofio'r Iesu
  Yn dod i fyny o'i fedd yn fyw:
Dydd i'r ddaear i ddyrchafu
  Moliant ei Gwaredwr yw;
Nefol ddydd, sanctaidd ddydd, -
  Canaf am y nefol ddydd.

Dydd i nerthu pererinion
  Ar eu taith i'r nefoedd, yw;
Dydd a'i oriau yn fendithion,
  Dydd i'w dreulio gyda Duw;
Nefol ddydd, sanctaidd ddydd, -
  Canaf am y nefol ddydd.

Dydd a bery yn dragywydd,
  Wedi dyddiau'r ddaear, yw;
Dydd i ganu'r gân na dderfydd
  Yn y nefoedd gyda Duw;
Nefol ddydd, sanctaidd ddydd, -
  Canaf am y nefol ddydd.
Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905

Tonau [8787337]:
Bryn Gilead (John Roberts 1807-76)
Bryn Myrddin (J Morgan Nicholas 1895-1963)
Gounod (Charles-Francois Gounod 1818-93)
Groes-Wen (J Ambrose Lloyd 1815-74)

This is the day to remember Jesus
  Coming up from the grave alive:
A day for the earth to raise
  Praise of its Deliverer it is;
A heavenly day, a holy day, -
  I will sing about the heavenly day.

A day to strengthen pilgrims
  On their journey to the heavens, it is;
A day and its hours blessings,
  A day day to be spent with God;
A heavenly day, a holy day, -
  I will sing about the heavenly day.

A day which will endure in eternity,
  After the days of the earth, it is;
A day to sing the song that will not perish
  In the heavens with God;
A heavenly day, a holy day, -
  I will sing about the heavenly day.
tr. 2013 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~