Hwn yw gair y Duw tra'wyddol

(Ei gyflawnder)
Hwn yw gair y Duw trag'wyddol,
  O ysbrydol ddwyfol ddawn,
Perlau gwerthfawr disglaer prydferth,
  Gemau Canaan yma cawn;
Creadigaeth, cwymp dynoliaeth,
  Prynedigaeth odiaeth iawn,
Wneir yn eglur i bechadur,
  Trwy'r Ysgrythyr, lythyr llawn.

Yma rhedo'm myfyrdodau,
  Ar drysorau goreu'r gair;
Grym ac iechyd i fy ysbryd,
  A bywiogrwydd i mi bair;
Mi anturia'r oll a feddaf
  Ar y gair cadarnaf gwiw;
Cwyd fi fyny, ceidw f'enaid,
  Mae fy nodded yn fy Nuw.
Yma rhedo'm myfyrdodau :: Cyflym rhedo 'myfyrdodau
anturiaf :: anturia'r
fy meddwl gwan i fynu :: fy meddwl gwan i fynu

Y Salmydd Cymreig 1854

[Mesur: 8787D]

(His fullness)
This is the word of the eternal God,
  From a spiritual, divine gift,
Valuable, shining, beautiful pearls,
  The gems of Canaan here we may get;
Creation, the fall of humanity,
  Very exceptional redemption,
Made clear to a sinner,
  Through the Scripture, a full letter.

Swiftly run my meditations,
  On the best treasures to be had;
Strength and health to my spirit,
  And liveliness to be prepared for me;
I will venture all I possess
  On the firmest, worthy word;
It will raise me up, it will keep my soul,
  My refuge is in my God.
Here run my meditations :: Swiftly run my meditations
::
me up, it will keep my soul :: my weak thought up

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~