Hwn yw yr hyfryd fore ddydd Y daeth ein Iesu mawr yn rhydd; Cydlawenhaed pob enaid trist Y dedwydd ddydd y cododd Crist. Bodlonwyd holl ofynion llawn Y gyfraith yn ei berffaith Iawn; Caed cymod dros bechadur trist: Cyflawnwyd popeth - cododd Crist. Goleuni ddaeth ar byrth y bedd: Dynoliaeth bur, ā newydd wedd, A ddaw i'r lan o'r carchar trist I fywyd dedwydd - cododd Crist. Gwrandewch, y nefoedd! ddaear, clyw! Dy feirwon eto a fydd byw; Preswylwyr llwch marwolaeth drist, Deffrowch a chenwch - cododd Crist. O Ddu, marweiddia'm chwantau cas, A maddeu'm pechod trwy dy ras; A gwenu wnaf ar angeu trist, Os huno gaf mewn ffydd yng Nghrist.Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-95
Tonau [MH 8888]: |
This is the delightful morn of day When our great Jesus came free; Let every sad soul rejoice together The happy day when Christ arose. Satisfied were all the full demands Of the law in his perfect Atonement; Reconciliation was got for a sad sinner: Everything was fulfilled - Christ arose. Light came upon the portals of the grave: Pure humanity, with a new face, Shall come up from the sad prison To a happy life - Christ arose. Listen, ye heavens! thou earth, hear! Thy dead shall yet live; Residents of the dust of sad mortality, Wake ye and sing - Christ arose. O God, mortify my hated lusts, And forgive my sins through thy grace; And smile I shall on sad death, If may awake in faith in Christ.tr. 2016,18 Richard B Gillion |
|