Hwyrhau mae'n dydd cysgodau'r nos
Hwyrhau mae'r dydd cysgodau'r nos

(Emyn Hwyrol - Rhodio gyda Duw)
Hwyrhau mae'n dydd,
    cysgodau'r nos,
  Ymddangos maent o'n cwmpas;
O aros gyda ni, ein Dduw,
  Ein bywyd yw'th gymdeithas.

I ffyrdd y byd
    a'u llygredd hwy
  Gochelwn mwy ddychwelyd;
Ar hyd ffordd arall tua'n gwlad,
  Boed ein mynediad hyfryd.

Trig gyda ni, dy hedd rho in',
  Ni geisiwn hyn drachefen;
Trig gyda ni, a hyn os cawn,
  I'n ffordd ni awn yn llawen.

            - - - - -

Hwyrhau mae'r dydd,
    cysgodau'r nos,
  Ymddangos maent o'n cwmpas;
O aros gyda ni, ein Dduw,
  Ein bywyd yw'th gymdeithas.

Mae'r nôd o'n blaen:
    nes cyrraedd hwn
  Heb flino cerddwn rhagom;
Mae'n hiachawdwriaeth ni, a'n rhan,
  Yn nes na phan gredasom.

Mewn purdeb rhodiwn, wrth liw dydd,
  Gan roddi beunydd heibio
Y ffyrdd rhodiasom ynddynt gynt,
  Na rodiom ynddynt eto.

Ein Duw, O! aros gyda ni,
  A bydd i ni'n Arweinydd;
Os cawn ni hyn, i'n ffordd yr awn,
  Dan ganmol dawn ein Llywydd.
Thomas William 1761-1844

Tonau [MS 8787]:
    Eidduned (J R Jones 1765-1822)
    Llanidloes (J Ambrose Lloyd 1815-74)

(Evening Hymn - Walking with God)
Our day is getting late,
    the shadows of night,
  Appearing they are around us;
O stay with us, our God,
  Our life is thy company.

To the ways of the world
    and their corruption
  Let us avoid henceforth returning;
Along the other way towards our land,
  Be our delightful going.

Dwell with us, thy peace give us,
  We shall not seek this again;
Dwell with us, and if we get this,
  To our way we shall go cheerfully.

               - - - - -

The day is getting late,
    the shadows of night,
  Appearing they are around us;
O stay with us, our God,
  Our life is thy company.

The mark is before us:
    until we reach this
  Without wearying let us walk forwards;
Our salvation, and our portion, is
  Nearer that when we believed.

In purity let us walk, by light of day,
  While walking daily past
The ways we walked in formerly,
  Let us not walk in them again.

Our God, O stay with us!
  And be to us a Guide;
If we get this, to our way we shall go,
  While praising the gift of our Leader.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~