I bob un sydd ffyddlon Dan Ei faner Ef Mae gan Iesu goron Fry yn nheyrnas nef Lluoedd Duw a Satan Sydd yn cwrdd yn awr: Mae gan blant eu cyfran Yn y rhyfel mawr. I bob un sydd ffyddlon, Dan Ei faner Ef Mae gan Iesu goron Fry yn nheyrnas nef. Medd-dod fel Goliath Heria ddyn a Duw; Myrdd a myrdd garchara Gan mor feiddgar yw; Brodyr a chwiorydd Sy'n ei gastell prudd: Rhaid yw chwalu'i geyrydd, Rhaid cael pawb yn rhydd. Awn i gwrdd y gelyn, Bawb ag arfau glân; Uffern sydd i'n herbyn A'i phicellau tân. Gwasgwn yn y rhengau, Ac edrychwn fry; Concrwr byd ac angau Acw sydd o'n tu!cyf. Henry Lloyd [Ap Hefin] 1870-1946 Tôn [8787T]: Rachie (Caradog Roberts 1878-1935) |
For everyone who is faithful Beneath his banner Jesus has a crown Above in the kingdom of heaven Hosts of God and Satan Are now clashing: The children have their lot In the great war For everyone who is faithful Beneath his banner Jesus has a crown Above in the kingdom of heaven Intoxication like Goliath Challenges man and God; Imprisons myriads and myriads Being so audacious; Brothers and Sisters Are in its castle of sadness: Its fortresses must crumble, All must be set free. Let us go to meet the enemy, Everyone with holy weapons; Hell is opposed to us With it's pikes of fire. Let us press into the ranks, And let us look up; The Conqueror of the world and death Is with us on every side!tr. 2017 Richard B Gillion |
|