I breseb Bethlehem

(Dilyn Iesu)
I breseb Bethlehem,
  Fe ddaeth yr Iesu,
Yn wylaidd iawn Ei drem
  I'n gwasanaethu;
Creawdydd mawr y nef,
A chyrrau'r ddaear gref:-
Yn faban gwelwyd Ef,
  Mewn isel deulu.

I ddeddfau pur Ei Dad
  Fe roes ufudd-dod,
A thrwy Ei fywyd mad
  Condemniodd bechod;
Ni cheisiodd fydol fri,
Ond gweithiodd drosom ni,
Nes mynd i Galfari,
  Yn aberth parod.

Cysegrwn ninnau'n hoes
  O wirfodd calon,
I wir ddyrchafu croes
  Yr Iesu tirion
Dilynwn ol Ei droed,
Yn awr yng ngrym ein hoed;
A'n hiraeth beunydd boed
  Am Fynydd Seion.
David Rowlands (Dewi Môn) 1836-1907

Tôn [6565.6665]: Dilyn Iesu (1899)

(Following Jesus)
To the crib of Bethlehem,
  Came Jesus,
Very meek His apprearance
  To serve us;
The great Creator of heaven,
And the corners of the strong earth:-
As a baby He was seen,
  In a lowly family.

To the pure laws of His Father
  He gave his obedience,
And through His virtuous life
  He condemned sin;
He sought no earthly esteem,
But worked for us,
Until going to Calvary,
  As a ready sacrifice.

Let us consecrate our lifetimes
  From a willing heart,
Truly to lift up the cross
  Of gentle Jesus;
Let us follow His footprints,
Now in the strength of our age;
And may our daily longing be
  For Mount Zion.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a ThonauCaneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~