I Dad y trugareddau Rhown foliant oll ynghyd, Am amryw ffrwythau'r ddaear A roddwyd in mewn pryd; Diolchwn o'n calonnau Am iddo'n cofio'n awr, A gwylio'n rhagluniaethol Amdanom, lwch y llawr. Tydi, O! Dduw, sy'n porthi Y creaduriaid oll, Ac wrthyt maent yn disgwyl Eu lluniaeth yn ddi-goll; Addefwn oll dy gariad A'th ofal dros y byd, Rhown fawl i'r Hwn a'n prynodd Â'i waed a'i angau drud. O! nertha ni i rodio Yn deilwng, Arglwydd Dduw, O'th ras a'th drugareddau, Tra byddom yma'n byw; A phan fôm yn ymado, 'R ôl cyrraedd pen ein taith, O! gad i ni dy foli Yn nhragwyddoldeb maith.Evan Pughe 1806-69 [Mesur: 7676D] |
To the Father of the mercies Let us all give praise together, For the various fruits of the earth Given to us in their season; Let us give thanks from our hearts For his remembering of us now, And watching providentially Over us, the dust the ground. Thou, O God, are feeding All the creatures, And from thee they are expecting Their sustenance unfailingly; We all profess thy love And thy care for the world, Let us give praise to Him who bought us With his blood and his costly death. O! strengthen us to walk Worthily, Lord God, By thy grace and thy mercies, While ever we are here living; And when we be departing, After reaching our journey's end, O let us praise thee In a vast eternity.tr. 2020 Richard B Gillion |
|