I Dduw b'o'r gogoniant am gynnydd Yr hâd yn y maesydd, a'r hin I'w lesol ddefodol addfedu, A'i gasglu, ei drefnu, a'i drin; Hin wresog, dêg, enwog i'w gynnull, A llenwi'n holl bebyll a bwyd, Na byddo'r un teulu drwy'n talaeth, O ddiffyg cael lluniaeth yn llwyd. I'r Arglwydd yn rhwydd am ein rhyddid, Ein bywyd, a'n iechyd, yn awr, Dadseiniwn, cyd-ganwn ogoniant, Dyrchafwn ei foliant yn fawr; Bendithion daearol yn dyrau, I ni gael tammeidiau'n mhob man, Diodydd a bwydydd bob adeg, Sydd beunydd yn rhedeg i'n rhan. Y moliant aberthwn i'n Porthwr, A'r parch i Gynnaliwr ein hedd; Yn awr efo'n gilydd, un galon, Aberthwn yn foddlon hyd fedd: Ein hymborth bob tammaid drwy'r tymmor, Defnyddiwn hwy'n rhagor yn rhwydd, I ganmol ein llywydd galluog, Yn fywiog a serchog ein swydd.Edward Jones 1761-1836 Caniadau Maes y Plwm 1857 [Mesur: 9898D] |
To God be the glory for the increase Of the seed in the fields, and the weather For its beneficial, customary maturing, And its gathering, its arranging, and its treatment; Warm, fair weather, namely to collect it, And fill all our tents with food, That there be no family throughout the region, Failing to get sustenance successfully. To the Lord readily for our freedom, Our food, and our health, now, Let us resound, let us chorus glory, Let us lift up his praise greatly; The earthly blessings in piles, For us to get morsels everywhere, Drinks and foods at any time, Which are daily running for our portion. The praise let us sacrifice to our Feeder, And the reverence to the Upholder of our peace; Now with each other, of one heart, Let us sacrifice voluntarily as far as the grave: Our sustenance every morsel throughout the season, Let us use them more exceedingly readily, To extol our mighty leader, Lively and affectionately our role.tr. 2017 Richard B Gillion |
|