I Dduw ein Prynwr, goruwch neb, Nerth a doethineb berthyn, Coronau o ogoniant byth, A mawl dilyth, diderfyn. Cyflwyna ef ein henaid ni, Yn berffaith ddifrycheulyd, Gerbron ei Dad, yn llon ein gwedd, Gyda gorfoledd hyfryd. Ac yna'r hâd dewisol fry Gânt gwrdd oddeutu'r orsedd, I foli gras, ac i fawrhau Ei dirion wyrthiau rhyfedd.Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841 [Mesur: MS 8787] gwelir: I'r unig ddoeth anfeidrol Dduw |
To God our Redeemer, above everyone, Strength and wisdom belong, Crowns of glory forever, And unfailing, unending praise. He will present our soul, Perfectly unspotted, Before his Father, our countenance cheerful, With delightful rejoicing. And then the chosen seed above Shall get to meet around the throne, To praise grace, and to magnify His wonderful, tender miracles.tr. 2016 Richard B Gillion |
|