I ddyfnder fy nhrueni, Ym mro'r tywyllwch mawr, Mae cariad a thosturi Yn tywallt dydd i lawr; Pan oedd fy nerth yn pallu, Heb neb i wrando 'nghri, Disgynaist i'm gwaredu, Pa Dduw sydd fel Tydi? I'th gafell gad im' ddyfod Yn grwydryn euog, ffol, Siomedig yw'r eilunod A'm denodd ar eu hôl; Afradlon yw fy enw, Heb feddu parch na bri, - I wella calon hwnnw pa Dduw sydd fel Tydi? Bu'r Iesu mewn caethiwed, I minau fynd yn rhydd: Am hyn, nid ofnaf niwed O fewn y farn a fydd; Cyflawnder sydd yn foddlon, Ar aberth Calfari; Caf finau wisgo'r goron, Pa Dduw sydd fel Tydi? Mi ganaf yn fy nagrau Am rad faddeuol drefn, I daflu fy mhechodau Am byth tu ol i'th gefn; Mae yn Dy gysgod loches I druan fel myfi; Caf bwyso ar Dy fynwes, Pa Dduw sydd fel Tydi?Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 Tôn [7676D]: St Edith (J H Knecht / E Husband) |
To the depths of my misery, In the vale of great darkness, Love and mercy are Pouring down daily; When my strength was failing, With no-one to to listen to my cry, Thou didst descend to deliver me, What God is like Thee? To thy inner sanctuary let me come A foolish, guilty wanderer, Disappointed are the idols Which pulled me after them; Prodigal is my name, Without possessing honour or esteem, - To heal this heart What God is like Thee? Jesus was in captivity, And I went free: Therefore, I shall not fear harm Within the judgment that shall be; Righteousness is satisfied, With the sacrifice of Calvary; I may get to wear the crown, What God is like Thee? I will sing in my tears About a gracious forgiving plan, To throw my sins Forever behind thy back; There is in Thy shelter refuge For a wretch like me; I may get to lean on Thy bosom, What God is like Thee?tr. 2015 Richard B Gillion |
|