I fôr o ofid suddodd Crist

1,(2),3,4.
(Bedydd)
I fôr o ofid suddodd Crist
  Wrth achub dynol-ryw,
A'i enaid oedd yn chwerw drist
  Pan guddiwyd ŵyneb Duw.

O'r diluw dwfn i fyny daeth,
  Er myn'd i orsedd Duw;
O'i suddiad a'i ddadsuddiad Ef,
  Ein bedydd, darlun yw.

Aeth Crist drwy fedydd
    dŵr a gwaed
  Pan drigai yn ein plith;
Dilynwn ninnau ôl ei draed,
  Rhown barch
      i'w eiriau byth.

Wrth suddo yn y dyfrllyd fedd,
  Ymwrthod 'r ŷm â'r byd,
Wrth atgyfodi, dangos wnawn
  Mai'r nefoedd aeth â'n bryd.
Hugh Jones 1831-83

Tonau [MC 8686]:
Bangor (William Tans'ur 1706-83)
Burford (Chetham's Psalmody 1718)
Canton (Lowell Mason 1792-1872)
Dundee/French (Salmydd Ravenscroft 1615)
Irish (Hymns and Sacred Poems 1749)
Reudsburg (A Kruger 1628-66)
St Magnus (Jeremiah Clarke 1670-1707)

(Baptism)
To a sea of grief sank Christ
  While saving human-kind,
And his soul was bitterly sad
  When God's face was hidden.

From the deep deluge up he came,
  In order to go to the throne of God;
Of his sinking and his unsinking,
  Our baptism, a picture is.

Christ went through a baptism
    of fire and blood
  When he dwelt among us;
Let us follow his feet,
  Let us render reverence
      to his words forever.

While sinking in the watery grave,
  We are repudiating the world,
While rising again, we are showing
  That the heavens took our devotion.
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~