"I'r gad!" y bloeddia'm Pen o draw "Deffrowch! mae gallu‘r fall gerllaw! Arfogwch oll," medd ef, "trwy ras! Rhaid marw'n làn, neu gonc'ro'r ma's!" Cyffrow'd fi gan y bywiol dwrdd, A'm hofnau beichus yrais ffwrdd; Wrth wel'd y fyddín ddû'n nesâu, Fy arfau wisgais heb lesgâu. Helm gobaith da, a tharian ffydd, Gair Duw yw'r cleddyf genyf sydd, Gwiríonedd am fy lwynau llaes, A sêl i'm cymhell ar y maes. Fel hyn i’r gâd af dan ymroi I beri'r fyddin lidiog ffoi, Tra'r Iesu'n dàl, o'i dirion nen, Fuddygol faner dros fy mhen. Fe yw'm hymddiried pur digoll, Ei waedlyd groes yw'm hymffrost oll; Caf trwyddo goncwest lwyr i'm rhan, A choron conc'rwr yn y man.J Dafis Casgliad Joseph Harris 1845
Tonau [MH 8888]: gwelir: Rhan II - 'Rwy'n awr yn cyrchu at y nôd |
"To battle!" shouts my Head from afar "Awake! the power of the devil is at hand! Arm ye all yourselves," says he, "through grace! One must die totally, or conquer the field!" I was stirred by the lively clamour And my burdensome fears I drove away; On seeing the black army approaching, My weapons I put on without weakening. The helmet of a good hope, and the shield of faith, The word of God is the sword I have, Truth for my loose loins, And zeal to motivate me on the field. Thus to the battle I go determinedly To cause the wrathful army to flee, While Jesus is holding, from his tender heaven, A victorious banner over my head. He is my pure unfailing trust, His bloody cross is all my boast; I shall have through him a complete conquest to my portion, And a conqueror's crown in a while.tr. 2023 Richard B Gillion |
|