I'r nefoedd ni ddaw nos, Nac achos i ymado; Caiff pawb fwynhad yng ngwaith y wlad: Mae'r gwaith yn gariad yno. I'r nefoedd ni ddaw cur, Rhy bur fydd pawb i flino: A phwy all lai na llawenhau? Ni chollir dagrau yno. Ni ddaw un pechod mwy I'w poeni hwy'n y nefoedd: Yng nghariad Duw mae'r teulu'n byw Heb fraw, heb friw'n oes oesoedd. O! dwg ni, Fugail Da, I Wynfa i breswylio; Ni welir bedd yng ngwlad yr hedd, Bydd cān heb ddiwedd yno.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Tonau [MBC 6787]: |
To heaven no night shall come, Nor any cause to depart; Everyone shall get enjoyment in the work of the land: The work is love there. To heaven no pain shall come, Too pure shall be everyone to grieve: And who can do less than to rejoice? No tears shall be shed there. No more sin shall come To pain them in heaven: In the love of God is the family living Without fear, without wound forever and ever. O bring us, Good Shepherd, To blessedness to reside; No grave shall be seen in the land of peace, There shall be song without end there.tr. 2024 Richard B Gillion |
|