I'th eglwys Arglwydd rho fwynhau

("Rhaid eich geni chwi drachefn.")
I'th eglwys, Arglwydd, rho fwynhau
  Y tywalltiadau nefol,
A grasol wyrthiau'r Ysbryd Glān
  Yn creu yr anian dduwiol.

Nid dawn na dysg ond dwyfol nerth
  Wna brydferth waith ar ddynion;
Y galon newydd, eiddot ti
  Ei rhoddi, Ysbryd tirion.

Ti elli bob rhyw ddrwg ddileu
  A'n creu i gyd o'r newydd;
Yn helaeth rho yn awr i'n plith
  Dy fendith, Dduw'r achubydd.

Caed lluoedd eu haileni 'nghyd
  I fywyd glān yr Iesu,
Ac ar ei ddelw, teulu'r ffydd
  Fo beunydd yn cynyddu.
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953

Tonau [MS 8787]:
Gorffwysfa (Rees Williams 1846-1934)
Mary (J A Lloyd 1815-74)

("Ye must be born again.")
To thy church, Lord, give the enjoyment
  Of the heavenly outpourings,
And the Holy Spirit's gracious miracles
  Creating the godly nature.

Not talent of learning but divine strength
  Does a beautiful work upon men;
The new heart, belonging to thee
  Give, O tender Spirit.

Thou canst every kind of evil destroy
  And make us all anew;
Generously give now in our midst
  Thy blessing, God the Saviour.

Let hosts be reborn altogether
  To the holy life of Jesus,
And in his image, may the family of faith
  Be daily increasing.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~