I ti O Dduw y gweddai mawl

(SALM 65 -
Diolch am fendithion tymhorol ac ysprydol)

1,2,(3,4,(6,8,9,10));  1,2,3,(5,6,7,8,10);
1,2,3,11;  1,8,10.
I ti, O Dduw, y gweddai mawl,
  Yn y sancteiddiawl Sion:
I ti y telir,
    trwy holl gred,
  Bob gwir adduned calon.

Pawb sydd yn pwyso atat ti,
  A wrendy weddi dostur;
Ac, atat ti y daw pob cnawd,
  Er mwyn gollyngdawd llafur.

Dy etholedig dedwydd yw,
  Caiff nes-nes fyw
      i'th babell:
Trig i'th gynteddau,
    ac i'th lys,
  A'th sanctaidd weddus ganghell.

A holl breswylwyr
    eithaf byd,
  Sy'n ofni gyd d'arwyddion:
I ti, gan fore,
    a chan hwyr,
  Y canant laswyr ffyddlon.

Duw a sicrhâ bob uchel fryn
  A'i wregys yn gadernid;
Hwn a ostega'r môr a'i don,
  A rhuad eigion enbyd.

Dyfrhau y ddaear sech yr wyt,
  Afon Duw llanwyd drosti:
Darperaist lif-ddwfr
    hyd ei llawr,
  I'w thramawr gyfoethogi.

Pob rhych yr wyt yn ei ddyfrhau,
  A'i chŵysau'r wyt i'w gostwng;
A'i rhoi yn mwyd mewn cawod wlith,
  I'w chnwd rhoi fendith deilwng.

Coroni'r ydwyt ti fel hyn
  Y flwyddyn â'th ddaioni:
Yn y modd yma, Duw fy NER,
  Dyferaist frasder arni.

Ef a ddyfera ffrwyth dy serch,
  Ar bob rhyw lanerch ddyrys:
Pob mynydd sych, yn uchder gwlad,
  O ffrwyth dy rad y dengys.

Trwy dy fendith, y gwastad dir
  A guddir oll â defaid:
Crechwenant,
    canant bawb ynghyd,
  A'r wlad ag ŷd ei llonaid.

Gogoniant byth a fo i'r Tad,
  I'r Mab Rhad, a'r Glân Ysbryd;
Fel gynt y by, y mae, a bydd,
  Tros oesedd tragwyddolfyd.
Pawb sydd yn pwyso atat :: Rhydd pawb eu hyder arnat
A wrendy weddi dostur :: Sy'n gwrando gweddi dirion
gollyngdawd llafur :: gollyngdawd calon
Afon Duw llanwyd :: Dy afon lanwyd
Trwy dy fendith :: Drwy dy fendith
            - - - - -

I ti, O Dduw, y gweddai mawl, [1]
  Yn dy sancteiddiawl Seion:
I ti y telir,
    trwy holl gred, [2]
  Bob gwir adduned calon.

Pawb sydd yn pwyso atat ti, [3]
  Gwrandawydd gweddi dostur;
Ac, attat ti y daw pob cnawd,
  Er mwyn gollyngdawd llafur.

Ireiddio 'r wyt y ddaear frau, [9]
  Pan fyddo eisiau arni,
Gan anfon gwlaw ynghyd a gwlith
  A'th fendith i'w ffrwythloni.

Y bryniau oll a'r gwastad dîr [13]
  A lenwir âg ŵyn defaid,
Heppiliant, ffrwythant
    yn eu pryd,
  A'r wlâd ag ŷd ei llonaid.

Fel hyn pob dyffryn bryn ac ael
  Sy'n llawn o'th hael fendithion;
Rhennaist i bob creadur byw
  Dy amryw hyfryd roddion.
Edmwnd Prys 1544-1623

Tonau [MS 8787]:
Cymundeb (Caradog Roberts 1878-1935)
Dominus Regit Me (J B Dykes 1823-76)
Dortmund (Hamburgh Choral Book)
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
Ferry (J Green's Psalmody 1751)
Glanceri (D Emlyn Evans 1843-1913)
Llwynffynnon (D Evans [Edward Arthur] 1874-1948)
Mawl (Davic Evans [Edward Arthur] 1874-1948)
Morganwg (hen alaw)
Oldenburg (J H Schein 1586-1630)
Weston Favel (William Knapp 1698-1768)
Willesden (Rhys Thomas 1867- )

gwelir:
  Duw a sicrhâ bob uchel fryn
  Ymwel'd â'r ddaear wyt O Dduw

(PSALM 65 -
Thanks for temporal and spiritual blessings)

 
 
To thee, O God, praise would be fitting,
  In the holy Zion:
To thee is to be paid,
    through all Belief,
  Every true vow of a heart.

Everyone is leaning on thee,
  Who hearest a prayer for mercy;
And, to thee will come all flesh,
  For relief from labour.

Thy chosen are happy,
  They may live nearer and nearer
      to thy tent:
To reside in thy entrances,
    and in thy court,
  And thy holy, worthy chancery.

And all the residents
    of the ends of the world,
  Fear altogether thy signs:
To thee, a morning song,
    and and evening song,
  Thy faithful servants sing.

It is God who establishes every high hill
  With his belt in strength;
He is it who calms the sea and its wave,
  And the roar of the angry ocean.

Watering the dry earth thou art,
  God's river streamed over it:
Thou preparedst a water-stream
    along its ground,
  Greatly to enrich it.

Every ridge thou art watering,
  And its furrows thou art softening;
And making it moist in a shower of dew,
  To give to its crop a worthy blessing.

Thou dost thus crown
  The year with thy goodness:
In this way, God my LORD,
  Thou hast dripped fatness on it.

He will drip the fruit of thy desire,
  On every kind of troublesome thicket:
Every dry mountain, in the upland,
  From fruit thy graciousness will appear.

Through thy blessing, the waste land
  Shall all be covered with sheep:
They will laugh,
    they will all sing together,
  And the land with grain of its fulness.

Glory be to the Father,
  To the Gracious Son, and the Holy Spirit;
As it formerly was, is, and shall be,
  For ages of an eternal world.
Everyone is drawing near to :: Everyone puts their confidence in
Who hearest a prayer for mercy :: Who hearest a tender prayer
relief from labour :: relief of heart
God's river streamed :: Thy river streamed
::
               - - - - -

To thee, O God, praise would be fitting,
  In thy holy Zion:
To thee is to be paid,
    through all creation,
  Every true vow of a heart.

Everyone is leaning on thee,
  Who hearest a prayer for mercy;
And, to thee will come all flesh,
  For relief from labour.

Freshening thou art the fragile earth,
  When there be need upon it,
By a river of rain together with dew
  And thy blessing to make it fruitful.

All the hills and the level ground
  Are filled with lambs of sheep,
They sprout, they bear fruit
    in their season,
  And the land with corn is cheered.

Thus every valley, hill and ridge
  Is full of thy generous blessings;
Thou gavest to every living creature
  Thy various delightful gifts.
tr. 2012,20 Richard B Gillion
 
 

 
 
 [1]

 [2]



 [3]




 [4]






 [5]






 [6]

 [7]


 [9]





[10]




[11]




[12]




[13]









 
 
 
 
 
               - - - - -

 [1]

 [2]



 [3]




 [9]




[13]





[10]



The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~