I ti dymunwn fyw, O Iesu da, Ar lwybrau esmwyth oes, dan heulwen ha': Neu os daw'r niwl i guddio'r wybren las Na ad i'm hofnau atal gwaith dy ras. Yn fwy bob dydd i ti dymunwn fyw Gan wneud dy waith yn well, gwaith engyl yw; A gad i mi, wrth ddringo'u hysgol hwy, Gael beunydd weld o'th degwch lawer mwy. Os rhaid ymwadu, dyro ras i mi Rhag cadw dim yn ôl oddi wrthyt ti: Na chaed nac aur na chlod na swyn y byd Dy atal, Iesu da, i lenwi ‘mryd. Ni allaf roddi fel y rhoddaist im; 'Rwy'n gweld, yng ngolau'r groes, fy ngorau'n ddim: Ond at y groes, er hynny, deuaf fi, I'm rhoi fy hunan i'th ewyllys di. Fy hunan oll i ti, O Iesu da, Er dyfod cwmwl du neu heulwen ha'; O fore oes hyd nes i'r cyfnos ddod Rho im y fraint o fyw bob dydd i'th glod.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Tonau [10.10.10.10]: |
To thee I would wish to live, O good Jesus, On the smooth paths of the age, under the sun of summer: Or if the fog comes to hide the blue sky Do no let my fears hinder the work of thy grace. More every day to thee I would wish to live Doing thy work better, the work of angels it is; And let me, while climbing their ladder, Get daily to see much more of thy fairness. If I must deny myself, grant grace to me Lest I keep anything back from thee: Let no gold or acclaim or charm of the world be found Hindering thee, good Jesus, from filling my mind. I cannot give as thou gavest to me; I see, in the light of the cross, my best as nothing: But to thy cross, nevertheless, I shall come, For me to give myself to thy will. All my self to thee, O good Jesus, Though a black cloud come or the sunshine of summer; From the morn of age until the twilight comes Give me the privilege of living every day to thy acclaim.tr. 2024 Richard B Gillion |
|