Iesu, ffynnon dwyfol hedd, Dyro inni weld dy wedd, Fel bo'r terfysg dan y fron Yn distewi'r adeg hon: Dwed y gair a ddofodd gynt Rym y don a thwrf y gwynt, Fel bo cynyrfiadau'r byd Yn tawelu oll ynghyd. Iesu, ffynnon dwyfol nerth, Dyro inni deimlo'i werth, Fel y byddom yn ddi-lyth Yn dy waith heb flino byth; Gwisg ni â'th arfogaeth gref Gadwodd fyrdd o deulu'r nef, Fel y gallom ar bob pryd Drechu temtasiynau'r byd. Iesu, ffynnon dwyfol wir, Dyro inni olau clir, Fel na bo amheuon cas Mwy yn atal gwaith dy ras; Dysg i ni gyfodi'r groes, Ac i'th ddilyn ddyddiau'n hoes, Fel bo'n rhodiad yn y byd Dan dy fendith Di o hyd.David Rowlands (Dewi Môn) 1836-1907 Tôn [7777D]: Maidstone (Walter B Gilbert 1829-1910) |
Jesus, fount of divine peace, Grant us to see thy countenance, That the tumult under the breast Fall quiet at this time: Say the word that tamed once The wave's force and the wind's uproar, That all the commotions of the world Become still altogether. Jesus, fount of divine strength, Grant us to feel its worth, That we may be unfailing In thy work without ever tiring; Clothe us with thy strong armour That kept a myriad of heaven's family, That we may on every occasion Overcome the temptations of the world. Jesus, fount of divine truth, Grant to us clear light, That detestable doubts No longer impede the work of thy grace; Teach us to raise the cross, And to follow thee the days of our life, That our walking in the world be Under thy blessing always.tr. 2021 Richard B Gillion |
|