Iesu, fy anwylyd, Cadw le i mi, Yn y nefoedd hyfryd - Yn dy ymyl Di; Yma ar y ddaear Teithio 'rwyf yn awr Trwy hen ddyffryn galar, - Yn y cystudd mawr: Iesu, fy anwylyd, Cadw le i mi, Yn y nefoedd hyfryd - Yn dy ymyl Di. Mawr yw'r anhawsderau Sy'n fy rhwystro'n mla'n, Prin yw'r cyflensderau I felysu'r gân; Yn y tywydd garw, Rhwng gelynion lu, Clywaf lais yn galw, "Tyred ataf Fi." Beth yw temtasiynau'r Byd lle'r wyf yn byw? Beth yw holl bleserau Daear o bob rhyw? Gwelaf yn y gorwel Wlad sy lawn o hedd, Cartref nefol tawel, Draw i byrth y bedd. Gwelaf lawen luoedd Yn ymloni'n mla'n Yn eu prydferth wisgoedd, Gyda newydd gân; Pa'm y digalona F'enaid egwan ddim - Llais o'r nef a waedda, "Digon yw fy ngrym."John Lewis (Eos Glyn Wyre) 1836-1892
Tôn [6565T]: Cadw Le I Mi |
Jesus my beloved, Keep a place for me, In the delightful heavens - At thy side; Here on the earth Travelling I am now Through the old valley of sorrow, - Yn the great tribulation: Jesus my beloved, Keep a place for me, In the delightful heavens - At thy side. Great are the difficulties That are obstructing me ahead, Scarce are the facilities To sweeten the song; In the rough weather, Between a host of enemies, I hear a voice calling, "Come thou unto me." What are the temptations of the World where I am living? What are all the pleasures Of earth of every kind? I see on the horizon A land that is full of peace, A quiet heavenly home, Beyond the portals of the grave. I see joyful hosts Being merry ahead In their beautiful garments, With a new song; Why shall my weak soul Be downhearted at all? A voice from heaven shouts, "Sufficient is my strength."tr. 2021 Richard B Gillion |
|