[Iesu'n / Iesu yn] unig yw fy mywyd

(Digonedd yn Nghrist)
Iesu'n unig yw fy mywyd,
  Mwy nag oll yw Ef ei hun;
Nid oes angel iddo'n debyg,
  Nid oes seraph, nid oes dyn;
Pleser, cariad, a llawenydd,
  Rodiant ar ei ddeheu-law,
Ac i'w ŵydd,
    na phoen na gofid,
  Nac euogrwydd byth ni ddaw.

Iesu! llawnder mawr y nefoedd!
  Gwrando lef un eiddil, gwan,
Sydd yn gorwedd wrth dy orsedd,
  Ac yn codi ei lef i'r lan;
Mae 'ngelynion heb rifedi
  Yn fy nghuro o bob tu,
Ac nid oes a all fy achub
  Is y nefoedd ond Tydi.

Yn dy haeddiant 'r wyf yn gyfiawn,
  Yn d'oleuni gwelai'n glir;
Yn dy wisgoedd dwyfol dysglaer
  Bydda'i'n ogoneddus bur;
Yn dy iachawdwriaeth gyflawn,
  Er mor eiddil wyf yn awr,
Ceir fy ngweled ryw ddiwrnod
  Yn dysgleirio fel y wawr.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Bavaria (F Mendelssohn-Bartholdy 1809-47)
Elberfeld (Johann Crüger 1598-1662)

Tonau [8787D]:
Gotha (<1875)
St Alkmund (<1875)

gwelir: Priod y drag'wyddol hanfod

(Sufficiency in Christ)
Jesus alone is my life,
  More than all is he himself;
There is no angel like unto him,
  There is no seraph, there is no man;
Pleasure, love, and joy,
  Walk at his his right hand,
And in his presence,
    neither pain nor grief,
  Nor guilt shall ever come.

Jesus, great fullness of the heavens!
  Listen to the cry of a feeble, weak one,
Who is lying by thy throne,
  And raising up his cry;
My enemies are without number
  Beating me on every side,
And there is none can save me
  Under heaven but thou.

In thy merit I am righteous,
  In thy light I shall see clearly;
In thy divine, radiant garments
  I shall be purely glorious;
In thy full salvation,
  Although so feeble I am now,
I am to be seen some day
  Shining like the dawn.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~