Iesu wele ni yn dyfod Fel yr ydym, atat Ti, Yn flinderog ac yn llwythog, Clyw, O! clyw, o'th ras, ein cri: 'N ôl d'addewid Dyro inni esmwythâd. Wrth dy draed dymunem aros, Dy ddisgyblion garem fod; Derbyn addysg dy wirionedd, Byw'n wastadol er dy glod: 'N ôl d'addewid Dyro inni olau'r nef.John Henry Hughes (Ieuan o Lleyn) 1814-93 Tôn [878747]: Abergynolwyn (D Emlyn Evans 1843-1913) |
Jesus, see us coming As we are, to thee, Weary and burdened, Hear, O hear, in thy grace, our cry! According to thy promise Grant us relief. By thy feet we would wish to stay, Thy disciples we would love to be; To receive the teaching of thy truth, To live constantly for thy praise: According to thy promise Grant to us the light of heaven.tr. 2020 Richard B Gillion |
|