Iôr anfeidrol, mae dy ddoniau Megis afon fawr ddi-drai Beunydd yn dylifo atom, Er ein bod yn fawr ein bai; Mewn trugaredd Cofiaist ni y flwyddyn hon. Ti yw Tad ein trugareddau, Arnat Ti yr ŷm yn byw; Cofiaist ni eleni eto, Rhoist fendithion o bob rhyw; Boed y diolch Oll i'th enw sanctaidd byth. Derbyn, Iôr, ein diolchgarwch, Derbyn ein haddoliad gwael; Boed ein bywyd iti'n ddiolch Am dy drugareddau hael; Dyro gymorth Inni rodio er dy glod. Byth i'r Tad y bo gogoniant, Clod a moliant, parch a bri, Ac i'r Mab a'r Sanctaidd Ysbryd, Heb wahân yn Un a Thri; Byth heb ddiwedd, Fel o'r dechrau, seinia'u clod. [MW]1860 William Williams (Gwilym ap Gwilym Llŷn), Treuddyn/Tryddyn. 4: [MW] Morris Williams (Nicander) 1809-74
Tonau [878747]: |
Infinite Lord, thy gifts are Like a great unebbing river Daily flowing to us, Although our fault be great; In mercy Thou didst remember us this year. Thou art the Father of our mercies, Upon thee we are living; Thou didst remember us this year again, Thou didst give blessings of every kind; May all the thanks Be to thy sacred name forever. Receive, Lord, our thanksgiving, Receive our lowly worship; May our life be thanks to thee For thy generous mercies; Give help For us to walk for thy praise. Forever to the Father be glory, Acclaim and praise, reverence and renown, And to the Son and the Sacred Spirit, Without separation as One and Three; Forever without end, As from the beginning, sound their acclaim.tr. 2020 Richard B Gillion |
|