I Galfaria trof fy ŵyneb, Ar Galfaria gwyn fy myd: Y mae gras ac anfarwoldeb Yn diferu drosto i gyd; Pen Calfaria, Yno, f'enaid, gwna dy nyth. Yno clywaf gyda'r awel Salmau'r nef yn dod i lawr Ddysgwyd wrth afonydd Babel Gynt yng ngwlad y cystudd mawr: Pen Calfaria Gydia'r ddaear wrth y nef. Dacw enaid lleidr aflan, Wedi crino'n ngwrês y fflam, O'i gadwynau'n dianc allan, Ac i'r nef yn rhoddi llam: Pen Calfaria Fydd ei gân dragwyddol mwy! Dringo'r mynydd ar fy ngliniau Geisiaf, heb ddiffygio byth; Tremiaf drwy gawodydd dagrau Ar y groes yn union syth: Pen Calfaria Dry fy nagrau'n ffrwd o hedd.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tonau: gwelir: Rhan II - Pan yn nyffryn cysgod angeu |
To Calvary I turn my face, On Calvary I am blessed: Grace and immortality are Dripping all over it; Head of Calvary, There, my soul, make thy nest! There I hear with the breeze Heaven's psalms coming down Taught by Babel's rivers Earlier in the land of the great affliction: Head of Calvary The earth joins with the heaven. Yonder is the soul of an unclean thief, Having shrivelled in flame's heat, From his chains escaping out, And to heaven giving a leap: Head of Calvary Shall be his eternal song evermore! To climb the mountain on my knees I will try, without ever wearying; I will gaze through showers of tears Directly on the cross: Head of Calvary It turns my tears into a stream of peace.tr. 2008,18 Richard B Gillion |
Calvary, with radiance glowingtr. Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953 |