I'r annherfynol fythol Fôd

(Diolchgarwch am ein Creadigaeth)
I'r annherfynol fythol Fôd,
  Sy'n hynod Dri Phersonau,
Y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glân,
  Cyhoeddaf gân â'm genau.

I'r Duw a'm ffurfiodd yn y bru
  A'i allu'n ol ei 'wyllys,
Dymunwn roddi nos a dydd
  Addoliad rhydd yn ddilys.

Fe roes fy lygaid yn eu lle,
  Fel hardd ganwyllau'n hollol,
Ac O! mor hyfryd ydyw rhai'n
  I'm harwain yn dymhorol!

Fe roddodd glustiau wrth fy mhen,
  Yn rhad, sy'n anghenrheidiol,
Heb rhai'n mi f'aswn ymhob man
  Yn fyddar ac anfuddiol.
Edward Jones 1761-1836
Caniadau Maes y Plwm 1875

[Mesur: MS 8787]

(Gratitude for our Creation)
To the infinite, eternal Being,
  Who is notably Three Persons,
The Father, the Word, and the Holy Spirit,
  I will publish a song with my mouth.

To the God who formed me in the womb
  And his power according to his will,
I wish to give night and day
  Ready worship sincerely.

He put my eyes in their place,
  Like beautiful candles completely,
And oh, how delightfu are they
  To lead in a timely manner!

He placed my ears beside my head,
  Freely, which is necessary,
Without those I would be in every place
  Deaf and unprofitable.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~