I'r Arglwydd boed gogoniant, Y parch, a'r moliant mawr, Am ddarpar hâd i'r hauwr, A bara i'r bwytâwr; A rhoddi'r fath dymmorau I gasglu'n hydau'n iach; Mae'n ddyled ei addoli, Heb oedi, ar fawr a bach. Ti roddaist drugareddau I dori'n heisiau ni; Na'd i ni dy anghofio Wrth dreulio d'eiddo di; Dod Ysbryd o'r uchelder, A'n dysg i'w harfer hwy, Rhag i ni mewn ysgafnder Byth eu camarfer mwy. Yr Arglwydd o'i ddaioni Wnaeth lawer i ni o les; D'wêd, f'enaid, - Diolch iddo, Fy arbed ganddo ge's; Fy nhroi mewn trugareddau Ar hŷd fy nyddiau wnaeth, Yn lle fy rhoi'n garcharwr Mewn cyflwr chwerw caeth.Edward Jones 1761-1836 Hymnau ar amryw Destynau ac Achosion 1820 [Mesur: 7676D] |
To the Lord be glory, The reverence, and the great praise, For providing see for the sower, And bread for the eater; And giving the kind of seasons To gather our corn safely; It is a duty to worship him, Without delay, on great and small. Thou gavest mercies To break our needs; Do not let us forget thee While spending thy property; May the Spirit come from the height, To teach us to use them aright, Lest we in lightness Ever misuse them henceforth. The Lord of his goodness Made much of benefit for us; Say, my soul, - Thanks to him, Saved by him I got; Turned me in mercies Throughout my days he did, Instead of putting me as prisoner In a bitter, captive state.tr. 2018 Richard B Gillion |
|