I'r Arglwydd rho'wn foliant - ei haeddiant ei hun - Cynnaliwr ein hiechyd, a'n bywyd, bob un; Efe sy'n teilyngu ei barchu trwy'r byd, Mewn daear a nefoedd yn gyhoedd i gyd. Clodforwn ei fawredd, mae'n weddaidd yn wir, Am nawdd a llonyddwch, mawr heddwch mor hir; A theulu breninol mor lesol i'r wlad, Sy'n blaid i'r efengyl, a'i syml lesâd. Y Arglwydd ardderchog, yn serchog ein swydd, Ei enw clodforwn, anrhegwn yn rhwydd, Am ymborth naturiol, mor rheidiol i'n rhan, Sy'n dwyn o'r dyfnderoedd ryw luoedd i'r làn. Efe sy'n rhoi bara i'w fwyta'n ddifêth, Efe yw Crëawdwr, Darparwr, pob peth; A dyfroedd i'w hyfed, rhag syched, i'r safn, Ef biau'r moroedd a'r dyfroedd bob dafn. Efe biau'r maesydd, au cynnydd bob cae, Er hyny'n eu rhoddi i'n maethu ni mae; Ni feddwn ni ronyn, neu hedyn, o hawl, - Duw biau'r holl ffrwythydd, y maesydd, a'r mawl. O! deuwn, bendithiwn, a dodwn i'n Duw Ogoniant ei enw pur heddyw bob rhyw; Dangosodd drugaredd dra rhyfedd drwy'r hin, Rhoi i ni ŷd lawnder heb drymder i'w drin. Mae'n medru cau'r dyfroedd a'r gwyntoedd mewn gwisg, Ac attal ystormydd i'r maesydd 'n mysg; A danfon hir degwch, hyfrydwch, o fry, In' hel ein cynnaliaeth, da doraeth, i dŷ. Gogniant tragywydd i'n Harglwydd o'r ne', Nid taro'n ddisymyth, heb fygwth, mae 'Fe; Rhybuddio cyn taro, i'n deffro, mae Duw, I ofyn maddeuant, yn bendant, a byw. Fe lanwodd y ddaear yn gynnar âg ŷd, I'n lloni â lluniaeth pur helaeth o hyd; Rhown ninnau'r anrhydedd i'w fawredd yn fwy, - Pwy ŵyr na chawn degwch, a'n heddwch yn hŵy.Edward Jones 1761-1836 Caniadau Maes y Plwm 1857 [Mesur: 11.11.11.11] |
To the Lord let us render praise - his own dessert - The upholder of our health, and our life, every one; He is deserving of being revered throughout the world, In earth and heaven all publicly. Let us extol his majesty, it is truly fitting, For protection and stillness, great peace so long; And a royal family so beneficial to the land, Is on the side of the gospel, and its simple welfare. The excellent Lord, affectionate our office, His name let us acclaim, let us honour freely, For natural sustenance, so necessary to our part, Who brings up from the depths some hosts. He it is who gives bread to be eaten unfailingly, He is the Creator, the Provider, of every thing; And waters to be drunk, against thirst, to the mouth, He owns the seas and the waters, every drop. He owns the fields, and the produce of every meadow, Despite this, given for us to farm they are; We possess grain, or seed, of right, - God possesses all the fruits, of the fields, and the praise. O let us come, let us bless, and let us give to our God The glory of his pure name today, every kind; He showed mercy so wonderful through the weather, Giving to us a fullness of corn without heaviness to treat it. He is able to close the waters and the winds in clothing, And stop the storms for the fields amongst us; And send delightful, long fairness, from above, For us to bring our produce, a good heap, home. Eternal glory to our Lord from heaven, Not striking suddenly, without threatening, is He; Warning before striking, to awaken us, is God, To ask for forgiveness, definitely, and live. He filled the earth early with corn, To cheer us with pure, bountiful nourishment always; Let us then give the honour to his majesty evermore, - Who knows we may get fairness, and our peace for longer.tr. 2016 Richard B Gillion |
|