I'r nef At Dduw cyfeiriaf wylaidd lef, Am gymorth Ei ddeheulaw gref I'm dwyn i dref; fy enaid trist Sy'n ceisio ffoi rhag llid y ddraig I holltau'r Graig, at Iesu Grist. Fy Nuw, O'i nefoedd lân, fy ngweddi glyw, A daw i wneud y marw'n fyw; Er gwaeled yw fy ngwylaidd gri, Mae balm i lwyr iachâu fy mhoen Yng nghlwyfau'r Oen fu yng Nghalfari. Fy rhan Yw Iesu, Cyfaill f'enaid gwan, Efe a'm cynnal ymhob man; A deil fi i'r làn ymhob rhyw loes; Yn nhywyll awr y rhyfel llym I mi daw grym o waed y Groes.W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938 Tôn [288.888]: Llanybyther (J D Jones 1827-70) |
To heaven Towards God I will direct a reverent cry, For the help of His strong right hand To lead me home; my sad soul Is seeking to flee from the wrath of the dragon To split the Rock, towards Jesus Christ. My God From his holy heaven, my prayer he hears, And comes to make the dead alive; Despite how poor is my reverent cry, There is balm completely to cure my pain In the wounds of the Lamb who was in Calvary. My portion Is Jesus, the Friend of my weak soul, He will uphold me in every place; And shall hold me up in every kind of anguish; In the dark hour of the sharp war May strength come to me from the blood of the Cross.tr. 2016 Richard B Gillion |
|