I'r ordinhad o fedydd dw'r

(Bedydd)
I'r ordinhad o fedydd dw'r
  Ein Prynwr ymostyngodd;
Os felly gwnaeth Tywysog nef
  Dilynwn Ef wirfodd.

'Rol d'wedyd "Gweddus yw y gwaith,"
  Ymostwng wnaeth yn drylwyr;
Os gweddus hyn i wir Fab Duw,
  Mae'n weddus i'w ganlynwyr.

Rhyw ddarlun yw o boenau Crist,
  Pan oedd yn drist hyd angeu,
Yn achos pechaduriaid drwg,
  O dan y gwg a'r poenau.

Boed grym dy gariad, Iesu cu!
  I'n tynu i rodio'th lwybrau;
A nertha ein calonau, lôr!
  I barchu'th ordinhadau.
Parch. Edward Roberts, D.D., Pontypridd.
Llawlyfr Moliant 1880

Tonau [MS 8787]:
Eisenach (J H Schein 1586-1630)
Ely (Thomas Turton 1780-1864)
Tegid (<1876)

(Baptism)
To the ordinance of water baptism
  Our Redeemer submitted;
If thus did the Prince of heaven
  Let us follow Him voluntarily.

After saying "The work is fitting,"
  Submit he did thoroughly;
If this is fitting for the true Son of God,
  It is fitting for his followers.

Some picture it is of the pains of Christ,
  When he was sorrowful unto death,
In the cause of wicked sinners,
  Under the frown and the pains.

Let the force of thy love, dear Jesus!
  Draw us to walk thy paths;
And strengthen thou our hearts, Lord!
  To respect thy ordinances.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~