Iesu danfon bûr ddiddanwch

Iesu danfon bûr ddiddanwch
  Dy lân Yspryd nefol wlith,
Dyro i mi wir ddedwyddwch
  I gartrefu ynnof byth:
Y sanctaidd dân a'r bywyd dwyfol,
  A ddisgnno oddi fry,
I greu fy nghalon oll o'r newydd
  Fel teml lân i'm Harglwydd cu.

Boed im' ddwyn ryw nefol ffrwythau,
  O gyfiawnder er dy glôd,
Planna ynnof bob rhinweddau,
  I'th glodfori tan y rhôd;
Yn dy ras boed im' gynhyddu
  Mewn ffydd a chariad gwir o hyd,
Nes fy nhaith i mi ddibennu
  Am derbyn mewn
      i'r nefol fyd.
John Hughes 1776-1843
Diferion y Cyssegr 1804

Tôn [8787D]: Hyfrydol (R H Pritchard 1811-87)

gwelir: Iesu Ceidwad pechaduriaid

Jesus, send the pure comfort
  Of thy holy Spirit of heavenly dew,
Give to me true happiness
  To make a home in me forever:
May the sacred fire and the divine life,
  Descend from above,
To create all my heart anew
  Like a holy temple to my dear Lord.

May I bear some heavenly fruits,
  Of righteousness to thy praise,
Plant in me every virtue,
  To extol thee under the firmament;
In thy grace may I be growing
  In faith and true love always,
Until my journey comes to an end for me
  And I am received into
      the heavenly world.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~