Iesu ei hunan yw fy mywyd - Iesu'n marw ar y groes, Y trysorau mwyaf feddaf Yw ei chwerw angeu loes; Gwagder annherfynol ydyw Meddu daear, da, na dyn; Colled, ennill pob peth arall Os na ennillir di dy hun. Dyma ddyfnder o drysorau, Dyma ryw anfeidrol rodd, Dyma wrthddrych ges o'r diwedd Ag sy'n hollol wrth fy modd; Nid oes syched arnaf mwyach Am drysorau gwag y byd; Pob peth gwerthfawr a drysorwyd Yn fy Mhrynwr mawr ynghyd. O ddyfnderoedd o ddoethineb! O ddyfnderoedd maith o ras! O ddirgelion anchwiliadwy, Bythol uwch eu chwilio i maes! Mae seraffiaid nef yn edrych Gyda syndod bob yr un Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol Duw yn marw dros y dyn! Mi orphwysa' f'enaid bellach Ar yr annherfynol stôr, Ac mi ganaf yn y dymmhestl Ar y graig sydd yn y môr; Dyna'r man na feiddia Satan, Uffern ddofn, fawr, a'r bedd, Er eu dyfais faith a'u rhuad, I derfysgu dim o'm hedd. Do, mi ddringais uwch y gwyntoedd, Wedi bod mewn stormydd mawr; Dinas noddfa ges o'r diwedd Mewn ardaloedd uwch y llawr; Gobaith cadarn patriarchiaid - Craig yr oesoedd gynt a fu, Wnaeth yr arfaeth faith ddiddechreu, 'Nawr sy'n fywyd i myfi.
Tonau [6767D]:
gwelir: |
Jesus himself is my life - Jesus dying on the cross, The greatest treasures I possess Are his bitter throes of death; Endless emptiness is Possessing earth, stock, or man; Loss, winning everything else Is oneself is not to be won. Here is the depth of treasures, Here is some immeasurable gift, Here is an object I got in the end And which entirely satisfies me; I have no thirst any more For the empty treasures of the world; Every valuable thing has been treasured In my great Redeemer altogether. O depths of wisdom! O vast depths of grace! O unsearchable secret, Forever above their finding out! The seraphs of heaven are looking With wonder every one On the depths of divine love God dying for man! I will rest my soul henceforth On the endless store, And I will sing in the tempest On the rock which is in the sea; There is the place where neither Satan, Deep, great hell, nor the grave dare Despite their vast scheme and their roaring, Disturb my peace at all. Yes, I climbed above the winds, Having been in great storms; The city of refuge I found at last In regions above the earth; The firm hope of the patriarchs - The Rock of ages which was of old, Which made the vast, beginningless purpose, Now which is life for me. tr. 2015 Richard B Gillion |
|