1,2,3,4,(5),6,7,8,11; 1,3,4,5,6,11; 1,3,4,7,5,6,11,12; 1,3,5,6,11,8; 1,3,6; 1,6,9,10,13. Iesu, 'Mrenin mawr a'm Priod, Bydd wrth raid / Imi'n blaid I orchfygu pechod. Ti fu troswyf yn dyferu Chwys a gwaed, / 'Lawr i'th draed, Ynddo gad i'm olchi. Tra f'wy'n trigo'n yr anialwch, Gwel'd yn wir / D'wyneb pur, Yw fy ngwir ddyddanwch. Tua Salem euraid arwain F'enaid llaith / Ar ei daith, Nes bo 'ngwaith yn gorffen. Iesu, eisoes e'st a'm calon, F'enaid cu'n / Llechu sy'n Ddifrad rhwng dy ddwyfron. Par im' aros mwy'n dy freichiau, Boed fy nyth, / Ddedwydd fyth, Yn dy ddilyth glwyfau. N'âd i'r gyfrwys ddraig fy nhwyllo Ar un llaw, / Yma a thraw, Oddi wrthyt i ymado. Nertha'm traed blinedig ddringad, Fyny o hyd, / Maes o'r byd Nes i'r nef im' ddwad. Hiraeth sy ar fy nghalon dyner, Wel'd y dydd, / Fyn'd yn rhydd, Maes o'm poen a'm blinder. Gwna fi farw, farw'n ddiau, Marw i'r byd, / 'Nawr yn nghyd, A'i holl wael bleserau. Pan fwy'n sengi llwybrau angau, Rhag pob braw / Rho dy law; Dangos im dy glwyfau. Iesu! helpa f'enaid ddringo 'N awr i'r làn / Tua'r màn Y câf byth breswylio. Gwynfyd a f'ai heddyw'n canu, 'Mhlith y llu, / Sanctaidd fry, Sydd wedi gorchfygu. Nes bo 'ngwaith :: Nes bo'm gwaith F'enaid cu'n / Llechu sy'n / :: F'enaid cu, / Yn llechu sy' / 'N
Iesu 'Mrenin mawr a' Mrïod, Yn erbyn llu, / Bydd o'm tu, I orchfygu pechod. Pâr i'm aros mwy'n dy freichiau, Boed fy nyth, / Ddedwydd fyth, Yn dy ddilyth glwyfau. Hiraeth sy' arnai yn ngwlad y nychdod, Wel'd y dydd, / Fyn'd yn rhydd, O'm cystudd a'm trallod. Os gelynion 'ddaw i'm denu, Gwna i mi'n ddwys, / Roi fy mhwys, I orphwys ar yr IESU. Heddyw rhof fy mhwys ar ddwyfron, IESU gwiw, / 'M Tywysog yw, Rhag pob rhyw elynion. Uwch creaduriaid, IESU cadw, Fy enaid llon, / Ger dy fron, Dirion nes fy marw. Pan bwy'n sengyd llwybrau angeu, Rhag pob braw / Rho dy law, Yna ni ddaw ofnau. Gwel dy anwyl ŵyn yn 'madael, Bydd wrth raid, / I ni'n blaid, O Arglwydd paid a'n gadael.William Williams 1717-91
Tonau[8335]: gwelir: Deffro f'enaid deffro'n ufudd Heddyw rho'f fy mhwys ar ddwyfron |
Jesus, my great King and my Spouse, Be in need / On my side To overcome sin. Thou didst shed for me Sweat and blood, / Down to thy feet, In it let me wash myself. While I am climbing in the desert, To see truly / Thy pure face, Is my true comfort. Towards golden Salem lead My timid soul / On its journey, Until the work be finished. Jesus, already thou hast taken my heart, My dear soul / Lurking is Guilelessly thee between thy breasts. Cause me to stay evermore in thy arms, May my nest be, / Happily forever, In thy unfailing wounds. Do not let the crafty dragon deceive me On either hand, / Here and there, From thee to depart. Strengthen my exhausted feet to climb, Up always, / Out of the world Until to heaven I come. A longing is upon my tender heart, To see thy day, / To go free, Out of my pain and my weariness. Make me die, die undoubtedly, Die to the world, / Now altogether, And all its base pleasures. When I am treading the paths of death, From every terror / Give thy hand; Show me thy wounds. Jesus, help my soul to climb Now up / Towards the place Where I may forever reside. Blessed it would be today to be singing, Amongst the holy, / Throng above, Who have overcome. :: ::
Jesus my great King and my Spouse, Against a host, / Be on my side, To overcome sin. Cause me to abide evermore in thy arms, May my nest me, / Happily forever, In thy unfailing wounds. A longing I have in the land of sickness, To see the day, / To go free, From my affliction and my trouble. If enemies come to attract me, Make me intent, / To lean, To rest on JESUS. Today I lean on the breast, Of worthy JESUS, / My Prince he is, Against all kinds of enemy. Above creatures, JESUS keep, My cheerful soul, / Before thy tender Breast until I die. When I am treading the paths of death, Against every terror / Give thy hand, There shall come no fears. See thy dear lambs departing, Be in need, / On our side, O Lord do not leave us.tr. 2016,21 Richard B Gillion |
|