Iesu pwy all fod yn fwy na thi?

Iesu, pwy all fod yn fwy na thi?
  Iesu, ti yw 'ngobaith i,
  Iesu, ti yw 'mywyd i,
  Iesu, fy nghyflawnder i,
    Iesu, caraf di.

Iesu, daethost gynt i'n daear ni,
  Gwisgo cnawd a wnaethost ti
  Yn ddibechod rhodiaist ti
  Er mwyn dod i'n hachub ni
    Iesu, caraf di.

Iesu, gwrando ar fy egwan gri,
  Llanw fi a'th Ysbryd di,
  Rho im nerth i fyw i ti,
  Profi o'th lawenydd di,
    Iesu, caraf di.

Iesu, ar y groes fe'm prynaist i,
  Drosof rhoist dy waed yn lli,
  Golchaist fi ar Galfari,
  Ynot mae 'ngorfoledd i,
    Iesu, ceraist ni.

Iesu, do, fe atgyfodaist ti,
  Drylliaist rym
      y bedd i mi,
  Caf ryw ddydd dy weled di,
  A'th dragwyddol foli di,
    Iesu, caraf di.
anad.

Tôn [97774]:
    Iesu pwy all fod yn fwy na thi? (anad.)

Jesus, who can be greater than thee?
  Jesus, thou art my hope,
  Jesus, thou art my life,
  Jesus, my fulfilment,
    Jesus, I love thee.

Jesus, thou camest of old to our earth,
  Wore the flesh which thou madest
  In sinlessness thou didst roam
  In order to come to save us
    Jesus, I love thee.

Jesus, listen to my weak cry,
  Fill me with thy Spirit,
  Give me strength to live to thee,
  Experience thy joy,
    Jesus, I love thee.

Jesus, on the cross the redeemed me,
  For me thou gavest thy blood as a flood,
  Thou didst wash me on Calvary,
  In thee is my jubilation,
    Jesus, thou didst love us.

Jesus, yes, thou didst rise again,
  Thou didst break the force
      of the grave in me,
  I will get some day to see thee,
  And eternally to praise thee,
    Jesus I love thee.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~