Iesu sy'n fwy na'r nef ei hun

Iesu sy'n fwy na'r nef ei hun,
  Yn fwy na'r ddaear las;
Ac Iesu'n unig fydd fy oll,
  Fyth, fyth, o hyn i ma's.

Ni feddaf ar y ddaear lawr,
  Ni feddaf yn y ne',
Neb ag a bery'n anwyl im',
  Yn unig ond Efe.

Mae ynddo'i hunan drysor mwy,
  Nag fedd yr India lawn;
Fe brynodd i mi fwy na'r byd,
  Ar groesbren un prydnawn.

Fe brynodd imi euraidd wisg,
  Trwy ddyoddef marwol glwy';
Ei angau Ef a guddia'm gwarth
  I dragwyddoldeb mwy.

Cyflawnder nerth, cyflawnder gras,
  Cyflawnder nef y nef;
Uwch deall
    seraph pur a sant
  Sy'n trigo ynddo Ef.

O n'allwn rodio er ei glod,
  Ac iddo bellach fyw;
A phob anadliad fynd i ma's,
  I ganmawl gras fy Nuw.
William Williams 1717-91

[Mesur: MC 8686]

gwelir:
  At wedd dy wyneb nid yw ddim
  Ffoed negeseuau gwag y dydd
  Iesu yw tegwch mawr y byd
  Na foed fy mywyd bellach mwy
  Ni feddaf ar y ddaear fawr/lawr

Jesus is greater than heaven itself,
  More than the blue-green earth;
And Jesus alone shall be my all,
  Forever and ever from now on.

I do not have on the earth below,
  Nor do I have in heaven
Anyone who will continue dear to me,
  But only He.

In himself is more treasure,
  Than belongs to full India;
He purchased for me more than the world,
  On the wooden cross one afternoon.

He purchased for me golden clothes,
  Through suffering a mortal wound;
His own death shall cover my shame
  Henceforth to eternity.

The fullness of strength, the fullness of grace,
  The fullness of the heaven of heaven;
Above the understanding
    of a pure seraph and a saint
  Dwells within Him.

O that I could rove for his praise,
  And to him live henceforth;
And every breath go out,
  To laud the grace of my God.
tr. 2013 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~