Iesu yr addfwyn Oen

(Rhinwedd y gwaed)
Iesu yr addfwyn Oen
  A ddug bechodau'r byd;
Ei aberth ef a'i waed sy' fwy
  Na phwysau'r rhai'n i gyd.

Mae gobaith f'enaid gwan,
  Fy hyder a fy ffydd,
Yn gwir ymorphwyso ar ei waed,
  Am lwyr lanhad ryw ddydd.

Af ato fel yr wyf,
  I 'mofyn am iachâd
A'm holl bechodau addef wnaf,
 Yn isel wrth ei draed.
ddug :: ddyg

Mr David Thomas, Caerfyrddin
(Casgliad M Davies 1835)

Tôn [MB 6686]:
Canterbury (Ravenscroft's Psalter)

gwelir:
  Nis gallai gwaed yr holl
  O gwrando weddi'r tlawd

(The virtue of the blood)
Jesus the gentle Lamb
  Has taken away the sins of the world;
His sacrifice and his blood are greater
  Than the forces of any altogether.

The hope of my weak soul is,
  My boast and my faith,
In truly leaning myself on his blood,
  For complete cleansing some day.

I will go to him as I am,
  To ask for salvation
And all my sins I will confess,
  Low at his feet.
::

tr. 2012 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~