Iôr y nef ymwêl â'r ddaear

(Ordeinio)
Iôr y nef, ymwêl â'r ddaear,
  Edrych ar y maes, y byd:
Byd a greaist, gofiaist, geraist,
  Brynaist yn yr aberth drud;
    Anfon, Arglwydd,
  Weithwyr i'r cynhaeaf mawr.

Ti, a roddodd air y deyrnas,
  Gair y bywyd, gair dy ras,
Rho dy fendith ar yr heuwr,
  Lwydda law dy waelaf was:
    Arddel, Arglwydd,
  Weithwyr y cynhaeaf mawr.

Ti, sy'n arwain y cymylau
  Ac yn plygu bwa'r nef,
Gwna dy was yn gwmwl gwlithog,
  Rho dy Ysbryd arno ef
    Er d'ogoniant,
  Arglwydd y cynhaeaf mawr.
John Cadvan Davies (Cadvan) 1846-1923

Tôn [878747]:
    Llangynog (John Evans [Cynogfab] 1857-1929)

(Ordination)
Lord of heaven, visit the earth,
  Look upon the field, the world:
The world thou hast created, remembered, loved,
  Purchased in the costly sacrifice;
    Send, Lord,
  Workers into the great harvest.

Thou, who gavest the word of the kingdom,
  The word of life, the word of thy grace,
Give thy blessing on the reapers,
  Prosper the hand of thy basest servant:
    Own, Lord,
  The workers of the great harvest.

Thou, who leadest the clouds
  And bendest the bow of heaven,
Make thy servant a dew-filled cloud,
  Give thy Spirit upon him
    For thy glory,
  Lord of the great harvest.
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~