Jerusalem O ddinas hardd

(Y Jerusalem Nefol)
Jerusalem, O! Ddinas hardd,
  Fy anwyl gartref clyd,
Pa bryd caf ddod tu fewn i'th byrth
  A chanu'n iach i'r byd?

Mewn anial garw rwyf yn byw,
  Yn ofni lawer gwaith
Mae colli'm ffordd a marw wnaf
  Cyn cyrraedd pen fy nhaith!

Y mae'r Iorddonen, afon fawr,
  Yn rhuo'n ddig is law;
Fy Nuw, fy Nhad! ai boddi wnaf
  Cyn cael yr ochor draw?

Caesalem deg, mor hardd dy wedd!
 Dy byrth o berlau drud:
Dy dêg heolydd, llydain, maith,
  Yn balmant aur i gyd.

Ah! dacw Ef - a dacw'r wlad:
  O! fedigedig wedd! -
A dacw annhraethadwy heirdd
  Binaclau Dinas hedd!

Ah! mae y ddinas nefol draw,
  A'i holl ddedwyddwch hi,
Yn werth pob cystudd a phob croes
  Ddaw byth i gwrdd â ni.
Sarah Jane Rees (Cranogwen) 1839-1916

Tôn [MC 8686]: Philippi (Samuel Wesley 1766-1837)

(The Heavenly Jerusalem)
Jerusalem, O beautiful City,
  My beloved cosy home!
When shall I get to come within thy portals
  And sing whole to the world?

In a rough desert I am living,
  Fearing many a time
That lose my way and die I shall
  Before reaching my destination!

The Jordan, a great river,
  Is roaring angrily below;
My God, my Father! shall I die
  Before getting to the other side?

Fair Salem, so beautiful thy countenance!
  Thy portals of costly pearls:
Thy fair streets, broad, vast,
  A pavement all of gold.

Ah! there He is - and there is the land:
  O blessed countenance! -
And there the inexpressibly beautiful
  Pinacles of the City of peace!

Ah! the heavenly city is yonder,
  With all its happiness,
Worth every tribulation and every cross
  That will ever come to meet us.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~