Llu disglair y nef, yn dyrfa gytûn, Wrth orsedd yr Oen, a blygant bob un, Gan fwrw eu coronau i lawr wrth ei draed, Am olchi pechadur a'i gannu'n y gwaed. Er lleisio eu cân drwy lysoedd yr Iôr, Am oesoedd o rif mân dywod y môr, Nid yw hi ond dechreu; mor beraidd ei blas, Yn ngenau angylion, yw anthem rhad ras! Ai distaw fydd dyn, am rinwedd y gwaed? Ai distaw fydd dyn, a brynwyd yn rhad? O Seion! boed moledd dy enaid yn gân, Dy galon yn gariad, dy dafod yn dân. Chwi weision yr Ion, byth bythoedd na thewch, Ei enw ar led, yn uchel mawrhewch; Cyhoeddwch drwy'r gwledydd o'r ddaear i'r nen, Mae Gwr dirmygedig Calfaria sydd Ben.Y Caniadydd (Casgliad Robert Jones) 1841
Tonau [10.10.11.11]: |
The radiant host of heaven, as a united throng, At the throne of the Lamb, bow every one, Casting their crowns down at his feet, For washing a sinner and bleaching him in the blood. Despite voicing their song throughout the courts of the Lord, For ages numerous as sea's fine sand, It has only just begun; how sweet its taste, In the mouths of angels, is the anthem of free grace! Shall man be silent, about the merit of the blood? Shall man be silent, who was redeemed freely? O Zion, may the eulogy of thy soul be a song, Thy heart love, thy tongue a fire. Ye servants of the Master, never ever be silent, His name abroad, loudly magnify ye! Publish throughout the lands from the earth to the sky, That the scorned Man of Calvary is Head.tr. 2020 Richard B Gillion |
|