Llwyr noetha'th fwa Iesu yn awr

(Gwisg dy gleddyf ar dy glun)
Llwyr noetha'th fwa Iesu, yn awr,
Marchoga yn d'ogoniant mawr,
  Cyflawna eiriau'r llwon drud,
  A dyngwyd cyn
      sylfaenu'r byd;
O! gyr dy saethau gloewon llym,
I gerdded gyda dwyfol rym,
  A chwymp d'elynion wrth dy draed,
  I geisio cymmod yn dy waed.

Cyfoder baner
    fawr dy ras
Yn mhob rhyw barth
    o'r ddaear las,
  Awelon nef fo'n dannau byw,
  I seinio'r iachawdwriaeth wiw;
Y delwau mudion fach a mawr,
Fel Dagon gynt, a gwympo i lawr,
  A chaned holl dafodau'r byd,
  Ganiadau mawl dy angeu drud.
William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83

Tôn [MHD 8888D]:
Bethesda (Richard S Hughes 1855-93)
Milan (<1875)

gwelir: Boed i efengyl Iesu mawr

(Wear thy sword upon thy thigh)
Completely bare thy bow, Jesus, now,
Ride in thy great glory,
  Fulfil the words of the precious oaths,
  That were sworn before
      the foundation of the world;
O drive thy bright, sharp arrows,
To walk with divine force,
  And make thy enemies fall at thy feet,
  To seek reconciliation in thy blood.

May the great banner of
    thy grace be raised
In every kind of region
    of the blue-green earth,
  The breezes of heaven be living strings,
  To sound the worthy salvation;
The mute images small and great,
Like Dagon of old, shall fall down,
  And let all tongues of the world sing,
  The songs of praise of thy costly death.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~