Llewygai'r haul yn entrych nen, Pan oedd ei Grewr mawr, Yn natur dyn yn crymu'i ben, Yn angeu loes i lawr. Fe grynai'r ddaear, rhwygai'r graig, Yr awr ryfedda erioed, Pan oedd E'n dryllio pen y ddraig Yn chwilfriw dan ei droed. Lle'r benglog mwyach fydd y lle Enwocaf ar y llawr, Canys yno drylliwyd penglog hen Lefiathan uffern fawr. Fe rwygai llen y deml yn ddwy Pan y gogwyddai'i ben, I ddangos fod y llwybr mwy Yn rhydd i'r nefoedd wen. Ei glod a'i fawl ni dderfydd mwy Am faith drag'wyddol oes, Am ddiystyru a myned trwy Waradwydd angeu'r groes.William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [MC 8686]: gwelir: Rhan I - Cyduned holl dafodau'r oes Dyrchafodd Crist o waelod bedd |
The sun would faint in the vault of heaven, When the great Creator was, In the nature of man bowing his head, Down in the throes of death. The earth would quake, the rocks would split, The most amazing hour ever, When he was smashing the dragon's head Into smithereens under his feet. Where the skull henceforth will be the most Famous place on the earth, Since there was smashed the old skull Of the Leviathan of great hell. The curtain of the temple would rend in two When he would tilt his head, To show that the path is evermore Free to the bright heavens. His acclaim and hi praise shall not cease any more For a vast eternal age, For disdaining and going through The shame of the death of the cross.tr. 2015 Richard B Gillion |
|