1,2,(3,4). Llewyrched pur oleuni'r nef, Dros wyneb daear faith; Ac aed efengyl gadarn gref, Hyd at bob llwyth ac iaith. Doed dehau, gogledd, dwyrain faith, Gorllewin o un fryd, I edrych ar brydferthwch gwaith Iachawdwr mawr y byd. Fe gân y Negroes tywyll, du, Yn hyfryd, maes o law; Pan d'wyno gwawr efengyl gras Dros dir yr India draw. I'r TAD, a'r MAB, a'r YSPRYD GLAN Rhown fawl ar gân i gyd; Sain haleluia fo 'mhob man Trwy bedwar ban y byd. Hyd at bob llwyth :: At bob rhyw lwyth dehau :: dëau - - - - - (Ymdaeniad Gwybodaeth Efengylaidd) Llewyrched pur oleuni'r nef, Dros wyneb daear faith; Ac aed efengyl gadarn gref, Hyd at bob llwyth ac iaith. Gwybodaeth bur, a chywir gred, Ehedont dros y byd; Aed dawn yr Oen at bob rhyw iaith Dros ddaear faith i gyd. Doed dehau, gogledd, dwyrain faith, Gorllewin o un fryd, I roddi moliant pur yn awr I Brynwr mawr y byd. CYD-GAN Aed ei air i blith y werin Sy'n y dwyrain a'r gorllewin, Fel ca'i enw mawr heb derfyn Ganu iddo, ganu iddo, Haleliwia ' gylch y byd.1802 Casgliad J R Jones 1765-1822 priodolwyd i John Henry Davies, Mynwy gan Llawlyfr Moliant 1890
Tonau [MC 8686]: |
Let the pure light of heaven shine, Across the face of the vast earth; And let the firm, strong gospel go, As far as to every tribe and language. Let south, north, vast east, West come of one intent, To look on the beauty of the work Of the great Saviour of the world. The dark, black Negroes will sing Delightfully soon; When the dawn of the gospel of grace shines Across the land of yonder India. To the FATHER, and the SON, and the HOLY SPIRIT Let us all render praise in song; The sound of hallelujah be in every place Through the four corners of the word. As far as to every tribe :: To every kind of tribe :: - - - - - (The Spread of Gospel Knowledge) Let the pure light of heaven shine, Across the face of the vast earth; And let the firm, strong gospel go, As far as to every tribe and language. Pure knowledge, and true belief, Let them fly across the world; Let the gift of the Lamb go to every kind of language Across all the vast earth. Let south, north, vast east, West come of one intent, To render pure praise now To the great Redeemer of the world. CHORUS Let his word go amongst the folk Who are in the east and the west, Just as his great name has no end Singing to him, singing to him, Hallelujah around the world.tr. 2011,15 Richard B Gillion |
|