Mae addewid nef o'm hochr

1,2,3,(4);  1,3,(4).
(Griddfan am ymwared)
Mae addewid nef o'm hochr,
  Fod fy Iesu'n ffrynd i'r gwan:
O'r pydewau dwg ei hunan
  Garcharorion llesg i'r làn;
Tòr y holltau pres yn gandryll,
  Tyn y barau heiym yn ol,
Gad i f'enaid o'r dyfnderoedd
  Hedeg yna i dy gol.

Nid wyn haeddu dim trugaredd;
  Trois fy nghefn ar y nef,
A chofleidiais fy eilunod
  'Nol meddiannu ei gariad ef;
Gwerthais drysor mwy na'r ddaear
  Am bleserau munyd awr,
Ac 'rwy' mron a thori 'nghalon
  Am ei heddwch ef yn awr.

Tywyned haulwen ar fy enaid,
  Blinais ganwaith
      ar y nos;
Nid yw 'mhleser, na 'nheganau,
  Na'm heilunod ond fy nghroes:
Mynwes Iesu yw'm hapusrwydd -
  O na chawn i yno fod!
Fe roi cariad dwyfol perffaith
  Fy mhleserau tan fy nhroed.

Etto unwaith mi dderchafaf 
  Un ochenaid tu a'r nef,
Ac a wylaf ddagrau'n hidyl
  Am ei bresennoldeb Ef:
Pwy a ŷyr na châf fy ngwrandaw
  Gan Dywysog mawr y nen:
Ac na ddaw fy nymuniadau,
  Trist, hiraethlawn, oll i ben.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Diniweidrwydd (alaw Gymreig)
Dismission (J F Wade c.1711-86)
Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Llanidloes (Hume)

gwelir:
  Eto unwaith mi ddyrchafaf
  Nid oes (g)wrth(dd)rych ar y ddaear
  Nid wy'n haeddu dim trugaredd
  O fy enaid gwan nac ofna

(Groaning for deliverance)
The promise of heaven is on my side,
  That Jesus is a friend to the weak:
From the pits he himself drew
  Feeble prisoners up;
Break the brass bolts to smithereens,
  Pull the iron bars back,
Let my soul from the depths
  Fly then to thy bosom.

I am not deserving any mercy;
  I turned my back on heaven,
And embraced my idols
  After possessing his love;
I sold treasure greater than the earth
  For pleasures of a moment,
And I am almost breaking my heart
  For his peace now.

Let sunlight shine on my soul,
  I have been wearied
      a hundred times by the night;
My pleasure is neither my trinkets,
  Nor my idols, but my cross:
The bosom of Jesus is my happiness -
  O that I could be there!
Perfect, divine love shall put
  My pleasures under my feet.

Once again I shall raise
  One groan towards heaven,
And weep streaming tears
  For His presence:
Who knows that I shall not get heard
  By the great Prince of the sky:
And that my sad, longing requests
  Shall not all come to fulfilment?
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~