Mae'r amser hyfryd yn nesâu Daw'r llwythau pell gan lawenhau, I arddel Crist dan awel gref, A thanllyd nerth ei Ysbryd Ef. Cyflawnder y Cenhedloedd sydd, Ar ddod i mewn, O hyfryd ddydd! Teyrnasa Iesu'n Frenin gras, Ar holl dylwythau'r ddaear las. - - - - - Mae amser hyfryd yn nesâu Pan dderfydd pob rhyw grefydd gau; Teyrnasa Iesu'n Frenin gras, Ar holl dylwythau'r ddaear las. Cyflawnder y Cenhedloedd sydd, Ar dd'od i mewn - O ryfedd ddydd, Ac Israel hęn ddewisol had, A ddônt i gredu yn mhob gwlad. Er iddynt wrthod Crist trwy wawd, Pan ydoedd gynt yn gwisgo cnawd; Derbyniant Grist mewn llawen lef, Trwy ryfedd nerth ei Ysbryd Ef. Gogoniant y Messiah mawr, A leinw wyneb daear lawr; Dim gwaith i'r cledd fygythio clwy, Na neb yn dysgu rhyfel mwy. Hiraethu mae pob perchen ffydd, Gan ddyfal ddysgwyl am y dydd; Pan welir pawb o ddynol-ryw, Mewn bywyd hardd ar ddelw Duw.David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
Tonau [MH 8888]: |
The delightful time is approaching The distant tribes shall come rejoicing, To own Christ under the strong breeze, And the fiery strength of His Spirit. The fullness of the Nations are, About to come in, O delightful day! Jesus the King of grace shall reign Over all the tribes of the green earth. - - - - - The delightful time is approaching When every kind of false belief shall vanish; Jesus shall reign as the King of grace, Over all the tribes of the green earth. The fullness of the Nations are, About to come in - O wonderful day, And Israel, the old chosen seed, Shall come to believe in every land. Although they rejected Christ through scorn, When he was formerly wearing flesh; They shall accept Christ with a joyful cry, Through the wonderful strength of His Spirit. The glory of the great Messiah, Shall fill the face of earth below; No work for the sword that threatens a wound, Nor any learning war any more. Longing is every possessor of faith, While devotedly waiting for the day; When all of human-kind are to be seen, In a beautiful life in the image of God.tr. 2019 Richard B Gillion |
|