Mae angeu'r groes yn fwy Na haeddiant yr holl fyd; Y mae griddfanau dwyfol glwy' Yn gyfoeth drud: Fe gènir myrdd yn wyn, Oll fel yr eira mân, Ceir gwel'd rhai ffiaidd ar ol hyn Yn berffaith lân. Anturiaf finnau mwy, Er cymmaint yw fy mai, Trwy'r haeddiant dwyfol sy'n Ei glwy, Heb lwfrhau: O flaen yr orsedd wen, Ffieiddiaf ddyn o'r blaen, Gan gredu gall Tywysog nen Fy ngwneyd yn lân.William Williams 1717-91 Tôn [6684D]: Leoni (alaw Iddewig) gwelir: Am fod fy Iesu'n fyw O f'enaid hêd i'r làn |
The death of the cross is greater Than the merit of the whole world; The groans of a divine wound are Costly wealth: A myriad are to be bleached white, All like the fine snow; Some thousands are to be seen after this Perfectly clean. I also shall venture more, Despite the extent of my fault Through the divine merit which is in His wound: Without losing heart: Before his white throne, I shall detest man foremost, While believing the Prince of heaven can Make me clean.tr. 2016 Richard B Gillion |
|