Mae Arnaf Eisiau'r Iesu (Yn fugail ac yn frawd)

Mae Arnaf Eisiau'r Iesu
  Yn fugail ac yn frawd;
I'm harwain a'm cynghori,
  Amddifad bychan tlawd;
Mae arnaf eisiau'i gariad,
  I gynnau 'nghariad i;
A'm gwneud yn ufudd iddo
  Dan faner Calfari.

Mae arnaf eisiau'r Iesu,
  I'm dysgu yn Ei waith;
I'm llenwi â'i gyflawnder,
  A'm llonni ar fy nhaith;
Yn Gyfaill a Gwaredwr,
  I'm cynnal pan wyf wan;
Yn Geidwad llawn tosturi,
  I'm cadw ym mhob man.

Mae arnaf eisiau'r Iesu,
  Efe yn unig wna
Iachâu fy nghalon aflan
  O bob rhyw enbyd bla;
Mae arnaf eisiau'r Iesu,
  Fy ngobaith ydyw Ef;
A'i farwol glwy yw 'mymwyd,
  A'i gymni fydd y nef.
Thomas Lodwick
1-2: Caniedydd yr Ysgol Sul 1899
3 : Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930

Tonau [7676D]:
  Christiana (alaw Norwegaidd)
  Mae arnaf Eisieu'r Iesu (D Lloyd Evans)
Rutherford (Chrétien Urhan 1790-1845)

I have a need of Jesus
  As a shepherd and as a friend;
To lead me and to counsel me,
  Defend a small poor one;
I have a need of his love,
  To kindle my love;
And to make me obedient to him
  Under the banner of Calvary.

I have a need of Jesus,
  To teach me in His work;
To fill me with his fullness,
  And to cheer me on my journey;
As Friend and Deliverer,
  To support me when I am weak;
As Keeper full of mercy,
  To keep me everywhere.

I have a need of Jesus,
  He alone does
Heal my unclean heart
  From every dangerous plague;
I have a need of Jesus,
  My hope is He;
And his mortal wound is my life,
  And his company shall be heaven.
tr. 2013,16 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~